Dyddiad cyhoeddi
Wrth sôn am Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU ddoe, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Roeddem yn gobeithio y byddai'r Canghellor wedi cydnabod difrifoldeb yr her sy'n wynebu gweithwyr yng Nghymru a'r buddsoddiad y bydd ei angen i helpu ein heconomi i wella. Yr oedd yr hyn a gyhoeddwyd ddoe ymhell o fod yn ddigon.

"Mae'r cyhoeddiad ar gyflogau'r sector cyhoeddus yn gic yn y dannedd. Dylem fod yn cydnabod y gwaith a wnaed ar draws y sector cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn – a heb fygwth llawer o weithwyr â'r hyn a fyddai’n doriad mewn termau go iawn i'w cyflog.

"Mae’r gweithwyr oedd yn disgwyl cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol wedi cael eu siomi gan benderfyniad Llywodraeth y DU i rwyfo'n ôl ar y cynnydd llawn a addawyd iddynt.  Nid yw cynnydd o 19c yn y flwyddyn nesaf yn ddigon.

"Methodd y Canghellor hefyd â chyhoeddi estyniad i'r codiad Credyd Cynhwysol o £20 – mae hynny'n golygu bod degau o filoedd o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu toriad o £1,000 mewn incwm o fis Ebrill nesaf. Rhaid gwrthdroi  hyn. Ac roedd hwn yn gyfle arall a gollwyd i drwsio ein system tâl salwch a sicrhau nad oes rhaid i neb ddewis rhwng eu hiechyd a'u hincwm yn ystod y pandemig hwn.

"Er mwyn ailadeiladu economi sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, mae angen rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddiad cyhoeddus arnom. Mae ymchwil TUC Cymru wedi dangos y gallai buddsoddi mewn trafnidiaeth werdd a seilwaith greu mwy na 59,000 o swyddi mewn dwy flynedd. Ond mae diffyg uchelgais Llywodraeth y DU a'i diffyg eglurder parhaus dros ddyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn bygwth tanseilio'r adferiad."

Nodyn y golygyddion

Cysylltiadau â'r wasg TUC Cymru:

E-bost: fdean@tuc.org.uk

Ffôn: 07770 384363