Dyddiad cyhoeddi
"Rydym yn cefnogi'r cyfyngiadau pellach ar y diwydiant lletygarwch i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ac atal ein hysbytai rhag cael eu llethu.

Mae gweithlu'r GIG wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy gydol y pandemig hwn, ac ni allwn adael i'n hymdrechion lithro nawr bod brechlyn ar y gorwel.

"Ond bydd y cyfyngiadau'n golygu bydd oriau a shifftiau gweithwyr yn cael eu torri cyn y Nadolig. Mae'r Cynllun Cadw Swyddi yno i leihau colli incwm pan fydd cyfyngiadau fel hyn ar waith. Rhaid i gyflogwyr ystyried ar frys sut i ddefnyddio'r cynllun hwn i'r eithaf - dylen nhw roi gweithwyr ar ffyrlo am unrhyw oriau a gollwyd fel bod eu hincwm yn cael ei ddiogelu gymaint â phosibl. 

"Ac os ydych chi'n poeni am eich swydd neu incwm nawr bod cyfyngiadau newydd yn dod i mewn, siaradwch â'ch undeb llafur am beth yw eich opsiynau a'ch hawliau."

Nodyn y golygyddion

Nodyn y golygyddion

Cysylltiadau â'r wasg TUC Cymru:

E-bost: fdean@tuc.org.uk

Ffôn: 07770 384363