Mae’r cytundeb yn ychwanegu at brosiectau partneriaeth cyfredol y ddau sefydliad, sy’n cynnwys y wefan dysgutrwyrundeb.cymru sy’n helpu gweithwyr i ddatblygu sgiliau newydd drwy ddysgu; a Barod am y Dyfodol - rhaglen hyfforddiant wyth wythnos i’w cefnogi i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain.
Drwy’r bartneriaeth, bydd y Brifysgol Agored a TUC Cymru yn chwilio am ragor o gyfleoedd i ddylunio a hyrwyddo dysg i aelodau undebau llafur, gan gynnwys:
• Cyrsiau mynediad i roi blas ar addysg uwch i bobl am y tro cyntaf
• cyrsiau byrion i helpu staff i uwchsgilio ac ailsgilio
• dysgu am ddim drwy blatfform OpenLearn y Brifysgol Agored.
Bydd y ddau sefydliad hefyd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ar ymchwil a gwerthuso er mwyn dangos effaith dysgu gydol oes, a rhannu arfer gorau ar draws mudiad undebau llafur Cymru.
Dywedodd Samantha Forde, Rheolwr Partneriaethau yn y Brifysgol Agored yng Nghymru:
“Mae’r cytundeb hwn yn adlewyrchu rhai o’r gwerthoedd sy’n gyffredin rhwng y Brifysgol Agored a TUC, gan gynnwys cyfiawnder cymdeithasol, cynhwysiant a dysgu gydol oes. Wrth gyfuno cyrhaeddiad TUC Cymru ar draws y mudiad undebau llafur gyda’n harbenigedd mewn dysgu o bell â chefnogaeth, rydym yn gobeithio y gallwn helpu rhagor o bobl ar draws Cymru i wireddu eu potensial drwy addysg.”
Dywedodd Linsey Imms, Swyddog Cenedlaethol yn TUC Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn ffurfioli ein perthynas â’r Brifysgol Agored drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn. Mae ein partneriaeth yn dyddio’n ôl flynyddoedd lawer, wedi’i hadeiladu ar ymrwymiad a rennir i ehangu mynediad at addysg a chreu cyfleoedd i bobl sy’n gweithio ledled Cymru. Mae’r cytundeb hwn yn nodi cam pwysig wrth gryfhau’r cydweithio hwnnw, gan ein helpu i gefnogi dysgwyr, meithrin sgiliau, a grymuso gweithwyr i ffynnu mewn economi sy’n newid.”