Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru wedi croesawu cyllideb Llywodraeth y DU, yn enwedig y £450m ychwanegol sy’n cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
• Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £450m yn ychwanegol i’w fuddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed yng nghyllideb Llywodraeth y DU heddiw.
• Mae’r corff Undebau Llafur nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi’r arian ychwanegol hwn yng ngweithlu Cymru drwy godi cyflogau’r sector cyhoeddus, a defnyddio ei phwerau i fynd i’r afael â chostau byw.

Wrth sôn am y gyllideb, dywedodd Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae hi’n galed ar bobl sy’n gweithio ledled Cymru. Gyda chostau byw’n dal i bwyso’n drwm, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y peth iawn yn cymryd camau i leddfu'r heriau hynny gyda chymorth pwrpasol ar gyfer biliau ynni. Dylid canolbwyntio’n ddi-baid ar safonau byw, felly rydyn ni’n gobeithio mai dim ond megis dechrau yw hyn. 

"Mae cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru bob amser yn cael ei groesawu ac mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r hyblygrwydd ychwanegol hwnnw i wneud y peth iawn. Rhaid iddi roi'r codiadau cyflog maen nhw'n eu haeddu i weithwyr y sector cyhoeddus, a defnyddio ei phwerau i leihau costau byw i bobl yng Nghymru."

Nodyn y golygyddion

Llefarydd: Bydd Laura Doel ar gael i'w chyfweld ar gais.
Ynglŷn â TUC Cymru: TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith.
Rydym yn creu Cymru lle mae gan bawb lais trwy eu hundeb ac incwm y gallant adeiladu bywyd arno. Credwn fod gan bob gweithiwr yr hawl i fod yn ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a'i barchu.
Pan fydd gweithwyr yn gweithredu ar y cyd, mae gennym y pŵer i greu newid cadarnhaol yn y gymdeithas. Rydym yn dod â gweithwyr ynghyd trwy 48 o undebau i ymladd dros swyddi gwell a gwlad fwy cyfartal a llewyrchus.

Cysylltiadau:
Matt Hexter
Mhexter@tuc.org.uk
07528170583