Roedd TUC Cymru wedi comisiynu Censuswide i gynnal arolwg o 2000 o weithwyr yng Nghymru ym mis Mehefin / Gorffennaf. Roedd yr arolwg yn canfod fod 43% o ddynion a 48% o fenywod wedi adrodd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Roedd yr arolwg yn canfod mai gweithwyr ifanc rhwng 25 a 34 yw’r mwyaf tebygol o brofi aflonyddu rhywiol, ac fe wnaeth dros hanner (53%) ymatebwyr y grŵp oedran hwnnw ddweud eu bod wedi ei brofi. Mae’r niferoedd sy’n ei brofi yn lleihau wrth i’r oedran godi, ond wedi dweud hynny, roedd 21% o ymatebwyr dros 55 wedi nodi eu bod wedi ei brofi.
Canfu'r arolwg hefyd bod menywod yn llai tebygol (17%) i adrodd digwyddiad o aflonyddu rhywiol na dynion (11%). Mae dynion (21%) yn fwy tebygol na merched (13%) i droi at gynrychiolydd undeb am help.
Dywedodd traean y merched (30%) nad oedd wedi adrodd y digwyddiad, mai'r rheswm am hynny oedd, “Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn ddigon difrifol”.
Dywedodd mwy na 1 o bob 10 o ymatebwyr nad oedd gan eu gweithle bolisi aflonyddu rhywiol swyddogol, neu nad oedden nhw’n gwybod a oedd polisi o’r fath yn bodoli. Dywedodd dros draean (36%) nad oedden nhw wedi cael unrhyw hyfforddiant ar sut i adnabod aflonyddu yn y gweithle na sut i roi gwybod am hynny.
Ymunwch ag ymgyrch Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di TUC Cymru
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel yn y gwaith. Dychrynllyd yw bod bron i hanner y gweithwyr yng Nghymru wedi cael profiad o aflonyddwch rhywiol yn y gwaith a hithau’n 2025. Rhaid i hyn ddod i ben. A dyma pam ein bod yn dechrau ein hymgyrch Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di.
Mae undebau llafur a chynrychiolwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i oresgyn aflonyddwch rhywiol yn y gweithle. Bydd ein hymgyrch Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di yn dangos i bob gweithiwr yng Nghymru y bydd eu cynrychiolydd undeb fel cynghreiriad amlwg wrth eu hochr bob cam o’r ffordd pe byddant yn cael profiad o aflonyddwch rhywiol, neu’n gweld achos o’r fath.
Bydd yr ymgyrch hwn yn grymuso undebau llafur i drafod gyda’u cyflogwyr a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Gweithwyr newydd. Yn y pen draw, bydd yr ymgyrch hwn yn lleihau faint o aflonyddwch rhywiol sy’n digwydd mewn gweithleoedd yng Nghymru.”
O fis Hydref 2024, mae’r Ddeddf Diogelu Gweithwyr yn gosod rhagor o gyfrifoldebau ar gyflogwyr i ddisgyblu neu gael yn gyfrifol y rheini y’u canfyddir yn euog o aflonyddwch rhywiol. Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys aflonyddwch gan gwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr gwasanaeth, neu aelodau'r cyhoedd, a byddai’n cynnwys ymddygiad mewn unrhyw ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n ymwneud â gwaith, fel parti Nadolig, digwyddiad cleientiaid, neu negesu rhwng cydweithwyr.
Mae TUC Cymru wedi dechrau ymgyrch o’r enw Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di, er mwyn mynd i’r afael ag aflonyddwch rhywiol yn y gweithle. Wedi’i greu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr gan undebau, mae’r sefydliad wedi cyhoeddi llawlyfr er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar gynrychiolwyr undebau i atal aflonyddwch rhywiol yn y gweithle.
Siaradodd Kay Stevens, cynrychiolydd undeb TSSA, am ei phrofiadau ei hun fel dioddefwr ac eiriolwr: “Roedd gen i gydweithiwr a fyddai wastad yn rhoi ei freichiau arna i a chyffwrdd arna i. Dywedais wrtho fod hynny’n fy ngwneud i deimlo’n anghyfforddus, felly byddai’n rhoi’r gorau iddi am ychydig ac yna’n ailddechrau.
“Fe wnes i ddweud wrth y rheolwyr a ddywedodd wrthyf mai dim ond bod yn gyfeillgar oedd o. Cefais fy siomi’n arw gan yr ymateb – roeddwn wedi gofyn iddo roi'r gorau iddi, felly pam wnaeth o ddim?
“Bellach fel cynrychiolydd undeb, mae fy mhrofiadau o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle wedi fy ngwneud yn fwy brwd byth dros sicrhau bod pawb yn ddiogel yn y gwaith drwy’r amser. Dylai bod pawb yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle, ac maen nhw’n haeddu cael rhywun i'w cefnogi. Boed ydyw’n digwydd nawr neu wedi digwydd amser maith yn ôl, byddwn i’n annog pobl i siarad â’u cynrychiolwyr undeb – rydym ni yma, fe wnawn ni wrando ac fe wnawn ni weithredu.”