Mae tua 1 o bob 7 person yn ofalwyr ac mae llawer ohonynt yn ceisio cydbwyso eu gwaith cyflogedig a’u cyfrifoldebau gofal. Er hynny, efallai nad yw llawer o gyflogwyr yn gwybod sut mae delio â hyn yn y gweithle. Mae TUC Cymru eisiau casglu rhagor o wybodaeth ac mae’n cynnal arolwg ymysg gweithwyr i weld pa faterion mae gofalwyr yn delio â nhw yn y gweithle.
Mae’r arolwg ar gael yn tuc.org.uk/carersurvey a bydd ar agor tan fis Hydref.
Dywedodd Rhianydd Williams, Swyddog Polisi TUC Cymru: “Dydy llawer iawn o bobl yng Nghymru ddim yn eu hystyried eu hunain yn ofalwyr, ond maen nhw’n gofalu am berthynas neu ffrind ac yn gweithio’n amser llawn neu’n rhan-amser hefyd.
Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd mae gweithio a gofalu am rywun yn gallu bod. Rydyn ni’n credu y dylai gofalwyr sy’n gweithio gael cymorth a chefnogaeth yn y gwaith. Rydyn ni eisiau gwybod pa rwystrau mae gofalwyr sy’n gweithio yn eu hwynebu a sut gall rheolwyr eu cefnogi."
DIWEDD
Nodiadau i’r golygydd
1. Mae Rhianydd Williams, Swyddog Polisi TUC, ar gael i roi rhagor o sylwadau. Cysylltwch ag wtuc@tuc.org.uk neu 029 2034 7010.
2. Gallwch gwblhau'r arolwg yn tuc.org.uk/carersurvey
3. Mae modd dod o hyd i astudiaethau achos gofalwyr sy’n gweithio ar gyfer cyfweliadau teledu.
4. Cyngres Undebau Llafur Cymru yw Llais Cymru yn y gwaith, a’n bwriad ni yw gwneud Cymru yn genedl gwaith teg. Ni yw'r corff dinesig mwyaf yng Nghymru sy’n seiliedig ar aelodaeth ddemocratig ac rydym yn rhoi llais i’r 350,000 o aelodau sy’n rhan o’n 49 o undebau cyswllt.
TUC Cymru yw’r awdurdod datganoledig ar gyfer undebau yng Nghymru ac mae’n falch o fod yn rhan o TUC a’r mudiad undebau rhyngwladol ehangach.
Mae Cyngres Undebau Cymru, sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd, yn gwneud penderfyniadau ynghylch polisi yng Nghymru ac yn ethol Cyngor Cyffredinol TUC i oruchwylio darpariaeth drwy Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru a’i staff.
5. Ystadegau ynghylch gofalwyr o adroddiad gan Carers UK yn 2019 – ‘Cydbwyso gwaith a gofal di-dâl: Problem sydd ar gynnydd’:
Cysylltiadau:
Wales TUC Cymru
Rhianydd Williams
029 2034 7010
Gofalwyr Cymru
Claire Morgan