Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru wedi lansio canllaw newydd, 'Cefnogi Gweithwyr Hŷn' heddiw, ddydd Iau 18 Awst, sy’n codi ymwybyddiaeth o'r modd y gall aelodau a chynrychiolwyr undebau llafur gefnogi gweithwyr dros 50 oed.

Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio'n gyflym. Mae 265,000 yn fwy o bobl dros 50 oed nag 20 mlynedd yn ôl. Ymhen 10 mlynedd bydd y nifer dros 50 oed sy'n byw yng Nghymru wedi codi i 1,400,000 – cynnydd rhyfeddol o 33% ers 2000.

Wrth i'r boblogaeth gyffredinol heneiddio, bydd gweithlu Cymru yn dilyn. Mae mwy o weithwyr rhwng 50 oed a throsodd yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Erbyn 2025, bydd 1 o bob 3 gweithiwr Cymreig dros-50.

Mae bywydau gwaith hefyd yn para'n hirach. Ers y 1980au, mae'r oedran ymddeol cyfartalog wedi bod yn cynyddu ar ôl cyfnod o ostyngiad parhaus o blaid ymddeoliad cynnar ar ôl y rhyfel.

Mae ymchwil TUC Cymru wedi canfod bod traean o'r rhai dros 50 oed yn disgwyl ymddeol yn hwyrach nag a ragwelwyd ganddynt pan oeddent yn 40. Mae grŵp sylweddol o weithwyr yn credu y byddant yn parhau i weithio yn eu 70au.

Nododd TUC Cymru fod ansicrwydd ariannol, dileu'r oedran ymddeol gorfodol a galw cynyddol am sgiliau llawer o weithwyr hŷn yn ffactorau sy'n gyrru'r cynnydd hwn.

Mae'r pecyn cymorth newydd yn darparu syniadau ac adnoddau i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur  i:

  • gwthio cyflogwyr i gyflawni polisïau gweithle sy'n fwy oed-gyfeillgar  
  • mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle 
  • creu amgylcheddau mwy cynhwysol, iach a chynaliadwy i'r holl weithwyr wrth iddynt dyfu'n hŷn

Esbonia Swyddog Polisi Cydraddoldeb TUC Cymru, Rhianydd Williams , pam fod oedran yn fater i undebau llafur:

“Mae pob gweithiwr yn haeddu urddas, diogelwch a sicrwydd yn y gwaith. Ond i lawer gormod o bobl hŷn, nid dyna'r realiti.

“Fel undebwyr llafur rydym yn credu mewn hyrwyddo’r cyfleoedd i bobl hŷn gael swyddi da, o ansawdd uchel tra'n amddiffyn yr hawl i ymddeol a hawliau'r rhai sy'n rhy sâl i barhau i weithio.

“Mae prinder sgiliau yn broblem mewn sectorau fel addysg, gofal, adeiladu a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae angen i gyflogwyr wneud gwell defnydd o sgiliau a phrofiadau gweithwyr hŷn a datblygu dulliau mwy cynaliadwy ar eu cyfer.

“Mae undebau yn allweddol i hyrwyddo dulliau o recriwtio, datblygu gyrfa a dylunio swyddi a gweithleoedd, sy'n gynhwysol o ran oedran. Mae gweithleoedd sy'n oed-gyfeillgar yn fater cydraddoldeb allweddol i undebau, yn ogystal ag un iechyd a diogelwch.”

Mae'r canllaw hefyd yn amlinellu sawl rheswm pam y dylai cyflogwyr werthfawrogi gweithwyr hŷn, yn seiliedig ar eu profiad, eu hyblygrwydd a'u gwerth am arian.

Amcangyfrifir bod 14,500,000 o swyddi gwag wedi'u creu rhwng 2012 a 2022 yn y DU, ond dim ond 7,000,000 o weithwyr sydd wedi ymuno â'r farchnad swyddi yn y cyfnod hwnnw.

Nodyn y golygyddion

Gellir dod o hyd i'r pecyn cymorth newydd ar https://www.tuc.org.uk/older-workers-toolkit  

Mae'r canllaw yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar-lein am 1pm ddydd Iau 20 Awst  –  gwahoddir newyddiadurwyr i gofrestru ar https://zoom.us/meeting/register/tJAvc-Gqpz8iGtQwzP--lZJShijyoYgr9gqr  

At ddibenion y polisi hwn, nodir gweithwyr hŷn fel y rhai dros 50 oed
TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.