Dyddiad cyhoeddi
• Bydd un o bob pedwar o bobl yn profi problemau iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol.
• Mae un o bob chwe gweithiwr yn cael eu heffeithio gan gyflyrau fel gorbryder, iselder a straen.
• Bydd arolwg TUC Cymru yn gofyn i weithwyr yng Nghymru am effaith Covid-19 a’u gwaith ar eu hiechyd meddwl

Gall gwaith fod yn un o ffactorau pwysicaf iechyd meddwl rhywun. Gall fod yn gymuned sy'n cynnig ffordd i bobl gyfrannu, cyrraedd eu llawn botensial a datblygu a chynnal rhwydweithiau cymdeithasol gwerthfawr. I'r gwrthwyneb, mae straen sy'n gysylltiedig â gwaith, bwlio ac ystyriaeth wael i iechyd meddwl gweithwyr yn effeithio'n negyddol ar y gweithlu cyfan.

Mae pandemig’r Covid-19 hefyd wedi cael effaith fawr ar iechyd meddwl llawer o bobl. Nawr, am y tro cyntaf, mae TUC Cymru yn gofyn i weithwyr yng Nghymru rannu eu profiadau o iechyd meddwl, Covid a'r gweithle.

Bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu defnyddio gan gorff yr undeb i greu adnoddau newydd ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac i ymgyrchu dros well iechyd meddwl a lles i bawb.

Mae'r arolwg yn agored i bawb sy'n gweithio yng Nghymru, nid aelodau'r undeb yn unig. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae'n cymryd tua 12 munud i'w gwblhau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj: “Mae’r pandemig wedi effeithio ar bob un ohonom: colli anwyliaid, trafferthion ariannol, sgil-effeithiau yn y gwaith ac mewn bywyd personol, ac yn sicr mae pobl yn fwy ynysig yn gymdeithasol. Wrth i ni i gyd geisio deall beth yw ein normal newydd, rydyn ni’n poeni mai iechyd meddwl sydd wedi’i effeithio fwyaf gan Covid.

Felly, er ein bod ni yn TUC Cymru yn gwybod bod aelodau undebau wedi cael eu heffeithio, rydyn ni eisiau clywed eich straeon. Sut mae eich iechyd meddwl? Sut mae eich iechyd meddwl wedi cael ei effeithio, er gwell neu er gwaeth, gan eich gwaith? A sut mae’r mudiad Undebau Llafur yn eich helpu chi?”

Nid yw iechyd meddwl yn gwahaniaethu ac ni ddylid bod unrhyw stigma ynghlwm wrtho. Fodd bynnag, gall grwpiau o bobl sydd â hunaniaethau neu nodweddion gwarchodedig gwahanol fod yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl. Felly, mae TUC Cymru yn gobeithio clywed gan weithwyr o bob cefndir drwy'r arolwg iechyd meddwl hwn.

Nodyn y golygyddion

TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda thua 48 o undebau llafur cyswllt, mae TUC Cymru yn cynrychioli tua 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros degwch yn y gwaith a chyfiawnder cymdeithasol adref a thramor.

Llenwch arolwg iechyd meddwl TUC Cymru yn  https://www.tuc.org.uk/MentalHealthWales