Dyddiad cyhoeddi
I nodi’r achlysur, daeth arweinwyr Undebau Llafur a gwleidyddion i ymuno â’r cyfranogwyr yn y Senedd ar 1 Ebrill i gydnabod llwyddiannau’r rhaglen ac i alw ar fwy o bobl i fanteisio ar y cyfle.

Lansiwyd y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du gan TUC Cymru yn 2023, sef rhaglen ddatblygu ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru, gyda’r nod o wella sgiliau arwain, ymgyrchu a threfnu. Mae’r rhaglen yn rhan o ymrwymiad TUC Cymru i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cynyddu cynrychiolaeth pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol mewn rolau uwch ac arweinyddiaeth yn y mudiad undebau llafur, mewn gweithleoedd ac mewn bywyd cyhoeddus.

Yng Nghymru, mae gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr (14.2%), o’i gymharu â gweithwyr Gwyn Prydeinig (8%). Mae gweithwyr o leiafrifoedd ethnig hefyd yn fwy tebygol o weithio mewn swyddi â chyflogau isel, ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi profi gwahaniaethu a bwlio yn y gweithle.

Mae aelwydydd ethnig leiafrifol hefyd yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi (40%) o’i gymharu ag aelwydydd gwyn (22%).

Roedd yr ail garfan, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2024, yn cynnwys 7 menyw ac 1 dyn o ardaloedd ar hyd a lled canolbarth a de Cymru.

Mae’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du wedi canolbwyntio ar bynciau sy’n amrywio o strwythurau gwleidyddol ac undebau llafur i rôl cynrychiolwyr undebau, ymgyrchu, negodi, meithrin hyder, cyfathrebu, cydraddoldeb a gwahaniaethu yn y gweithle.

TUC Cymru Yn Dathlu Llwyddiant yr Ail Raglen Datblygu Ymgyrchwyr Du
Credyd llun: Gavin Pearce, TUC Cymru

“Mae gweithwyr du ac ethnig leiafrifol yng Nghymru wedi cael eu gwthio i’r neilltu yn eu gweithleoedd, mewn bywyd gwleidyddol ac – er mawr gywilydd – yn y mudiad undebau llafur weithiau. Wnawn ni ddim caniatáu i hynny barhau.”

“Rydw i’n hynod falch o’n Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du, ac o bawb sydd wedi cymryd rhan. Dyma’r cam cyntaf tuag at greu mudiad undebau mwy cyfartal – a Chymru decach.”

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

Roedd y rhaglen hefyd yn gyfle i gymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau gwleidyddol ac undebol, ac i ymgysylltu’n uniongyrchol â gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyfranogwyr yn gorffen eu taith drwy gael eu tystysgrifau yn y Senedd.

Vaughan Gething, yr Aelod o’r Senedd dros Dde Caerdydd a Phenarth, sy’n noddi’r digwyddiad yn y Senedd
Credyd llun: Gavin Pearce, TUC Cymru

“Mae’n bleser gen i gynnal y seremoni cyflwyno tystysgrifau ar gyfer Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru.   Mae digwyddiadau diweddar yn y Deyrnas Unedig wedi’i gwneud yn fwy amlwg nag erioed bod arnom angen Undeb Llafur â llais cryf i gynrychioli ac adlewyrchu cymunedau ethnig leiafrifol.”

“Rwy’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn y rhaglen yn annog pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol i ystyried cyfrannu at fywyd cyhoeddus, boed hynny’n golygu mynd i faes gwleidyddiaeth, ymuno â bwrdd, neu hyd yn oed fod yn ymgyrchydd cymunedol.  Rwyf yn edrych ymlaen at gwrdd â charfan eleni.”

Vaughan Gething, yr Aelod o’r Senedd dros Dde Caerdydd a Phenarth, sy’n noddi’r digwyddiad yn y Senedd

Ymunwch â’n Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du

Bydd rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru yn rhedeg o 9 Mai 2025 ymlaen gyda phenwythnos preswyl 2.5 diwrnod (bydd y llety a’r arlwyo’n cael eu darparu). Bydd yn cynnwys sawl sesiwn wyneb yn wyneb ac ar-lein dros 11 mis.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i chi ddysgu am strwythur, amrywiaeth, negodi, blaenoriaethau ac arweinyddiaeth y mudiad undebau llafur. Bydd y sesiynau hefyd yn rhoi'r hyder a'r adnoddau i chi allu cymryd mwy o ran yn y strwythurau sydd gan eich undeb ar gyfer trefnu, dylanwadu a gwneud penderfyniadau.

 

Cofrestrwch ar gyfer y rhaglen nawr

Nodyn y golygyddion

- Gwybodaeth am TUC Cymru: Nod y Gyngres Undebau Llafur (TUC) yw gwneud y byd gwaith yn lle gwell i bawb. Gyda dros 48 o aelod-undebau, rydym yn dod â dros 5.5 miliwn o bobl sy’n gweithio at ei gilydd. Rydym yn helpu undebau i dyfu ac i ffynnu, ac rydym yn sefyll dros bawb sy’n gweithio i ennill bywoliaeth.

Cyswllt: asingh@tuc.org.uk