Dyddiad cyhoeddi

Rydym yn croesawu cyhoeddiad cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’r Undebau Llafur yng Nghymru i amlygu sut mae hiliaeth wedi niweidio bywydau gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae symud tuag at wrth-hiliaeth yn rhywbeth cydweithredol - ni all un person neu un sefydliad gyflawni hynny. Mae’n rhywbeth sydd angen newid diwylliannol a seismig. Rydym wedi gweithio’n galed i amlygu sut mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl sy’n gweithio yng Nghymru, ac i nodi pa gamau gweithredu sydd angen eu blaenoriaethu i’n symud ni tuag at Gymru gwrth-hiliol.

Bu i bandemig Covid-19 amlygu’r hiliaeth y mae gweithwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn ei hwynebu. Rhannodd gweithwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig eu profiadau bywyd bob dydd gydag undebau o weithio ar gontractau o safon isel, diffyg diogelwch neu ddim o gwbl, na chyfle i symud ymlaen, yn aml yn gweithio mewn swyddi rheng-flaen gyda diffyg amddiffyniadau iechyd a diogelwch neu ddarpariaeth cyfarpar diogelu personol (PPE).

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Fel undebwyr llafur, rydym wedi llwyr ymrwymo i sicrhau bod cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol yn cael ei weithredu’n briodol a bod bob sefydliad, gan gynnwys undebau llafur, yn agored, yn dryloyw ac yn atebol.”

“Rydym yn falch iawn o weld y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi fel cam cyntaf, ac rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen a gwneud y gwaith pwysig hwn. Ond dyna’r cyfan yw e - cam cyntaf yn y broses o ddatgloi system gymhleth sydd wedi gwahaniaethu yn erbyn pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ers tro.”

“Byddwn bob amser yn sefyll dros bob gweithiwr, ac mae undebau llafur yn hanfodol i weithredu’r cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol mewn gweithleoedd, cymunedau a gwasanaethau ledled Cymru”.