Dyddiad cyhoeddi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau newydd i wneud gweithleoedd a siopau yn ddiogelach

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (15 Ionawr) ar gryfhau deddfwriaeth i sicrhau bod gweithleoedd a siopau yn fwy diogel dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Rydym yn croesawu'n gryf y mesurau newydd hyn i amddiffyn gweithwyr a'r cyhoedd ymhellach rhag y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon gweithwyr ac wedi gweithredu'n gyflym i fynd i'r afael â nhw. Gwyddom fod llai na chwarter y cyflogwyr yng Nghymru wedi bod yn dilyn y canllawiau ar asesiadau risg yn llawn, felly mae cryfhau'r gofynion sy'n ymwneud â hyn yn gam pwysig iawn.

"Ta waeth ble mae rhywun yn gweithio na beth maen nhw'n ei wneud, ni ddylen nhw fod mewn mwy o berygl o ddal coronafeirws yn y gwaith os oedd mesurau y dylai eu cyflogwr fod wedi'u rhoi ar waith i'w hamddiffyn. Mae hyn yn golygu cynnal asesiadau risg, eu rhannu â staff, gweithredu'r newidiadau angenrheidiol a'u hadolygu'n rheolaidd, i gyd mewn ymgynghoriad â'r gweithlu a'u hundebau. Rydym yn hyderus y bydd y mesurau hyn yn gwireddu hyn i filoedd yn fwy o weithwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda'r llywodraeth a chyflogwyr ar fanylion y rheoliadau newydd i wneud ein gweithleoedd yn fwy diogel."

Os oes gyda chi unrhyw bryderon am iechyd a diogelwch yn eich gweithle cysylltwch â'ch undeb neu e-bostiwch wtuc@tuc.org.uk. Dim mewn undeb? Ymunwch ag un heddiw