Dyddiad cyhoeddi
Mewn ymateb i gyhoeddiad heddiw (11 Medi) gan Lywodraeth Cymru ar orchuddion wyneb, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:

"Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau a mannau eraill dan do. Bydd y penderfyniad hwn yn helpu i gadw gweithwyr yn ddiogel.

"Mae'r cloi lleol yng Nghaerffili a'r cynnydd sydyn yn nifer yr achosion mewn awdurdodau lleol eraill yn dangos difrifoldeb y bygythiad y mae Covid-19 yn parhau i'w achosi.

"Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb i ysgolion uwchradd – yn unol â’r arfer ar draws gweddill y DU.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill drwy'r fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol newydd i sicrhau bod cyflogwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau i gadw eu gweithwyr yn ddiogel."