Rydym yn croesawu'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Gwaith Teg.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd pob cam posibl o fewn ei chymhwysedd i gefnogi a hyrwyddo undebau llafur a chyd-fargeinio. Mae hefyd yn argymell y dylai Swyddfa Gwaith Teg gael ei sefydlu fel conglfaen angenrheidiol ar gyfer gwaith teg yn Llywodraeth Cymru.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Comisiwn fel panel annibynnol o arbenigwyr i roi cyngor ar sut y gall ddefnyddio pwerau datganoledig i wneud ein gwlad yn genedl gwaith teg.
Dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
"Mae TUC Cymru wedi ymgyrchu'n hir i wneud Cymru yn genedl gwaith teg drwy bartneriaeth gymdeithasol. Mae adroddiad y Comisiwn yn gyfraniad i'w groesawu tuag at gyflawni'r nod hwnnw.
"Mae'n arwyddocaol bod grŵp arbenigwyr annibynnol wedi cefnogi'r camau allweddol tuag at waith teg y mae TUC Cymru wedi galw amdano. Yn benodol, mae'r Comisiwn yn cydnabod rôl ganolog undebau a chyd-fargeinio wrth wneud gwaith yn deg. Mae hefyd yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob lifer sydd ganddi i gyflawni gwaith teg.
"Mae'r Comisiwn yn cydnabod yr angen i'r Llywodraeth weithredu ar unwaith – gyda gwybodaeth gan yr undebau a chyflogwyr – yn ogystal â datblygu deddfwriaeth angenrheidiol.
"Mae Undebau Llafur Cymru yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth a chyflogwyr i helpu Cymru i arwain y ffordd fel cenedl waith deg.
"Yr hyn sydd ei angen yn awr yw brys gwirioneddol ac adnoddau i’w gyflenwi. Nid yw gweithwyr Cymru yn haeddu dim llai."
Darllenwch adroddiad llawn y Comisiwn gwaith teg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a darllenwch sut y buom yn ymgyrchu i wneud Cymru'n genedl gwaith teg
Gallwch helpu i wneud Cymru yn lle tecach i weithio drwy ymuno ag Undeb