Dyddiad cyhoeddi
  • Mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadarnhau bod gweithwyr ifanc yng Nghymru wedi cael eu taro galetaf gan argyfwng Covid – gyda gostyngiad o 6.5 pwynt canran yng nghyfradd cyflogaeth pobl ifanc 16-24 oed ers mis Ionawr 2020.
  • Mae ymchwil newydd gan TUC Cymru/YouGov wedi dangos bod degau o filoedd o weithwyr ifanc yng Nghymru yn credu eu bod yn cael eu trin yn annheg ar gyflog ac nad oes ganddyn nhw fawr o lais mewn penderfyniadau yn y gweithle.
  • Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i weithio gydag undebau i sicrhau bod adferiad economaidd Cymru yn canolbwyntio ar swyddi o ansawdd da a grymuso gweithwyr ifanc.
  • Daw’r alwad wrth i TUC Cymru lansio ymgyrch newydd i gynyddu nifer y gweithwyr ifanc sy’n aelodau o undeb.

Mae TUC Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ei strategaeth adferiad economaidd ar sicrhau bod gweithwyr ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swyddi o ansawdd da, a’u bod yn cael eu grymuso i fynnu eu hawliau yn y gwaith.

Mae’r undeb wedi croesawu addewid Llafur Cymru i ddarparu Gwarant i Bobl Ifanc o le mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb yng Nghymru dan 25 oed. Ond mae’n dadlau bod yn rhaid i’r addewid fynd ymhellach i sicrhau bod y gweithwyr ifanc yn gallu osgoi’r swyddi ansicr ac o ansawdd gwael, a oedd yn nodweddiadol o adferiad y dirwasgiad diwethaf.

Daeth yr alwad ar ôl i ddata newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod cyfradd cyflogaeth pobl ifanc 16-24 oed 6.5 pwynt canran yn is ers dechrau 2020. I’r gwrthwyneb, nid yw’r gyfradd ar gyfer pobl 35-49 oed wedi newid.

Ar ben hynny, mae arolwg newydd gan TUC Cymru/YouGov wedi dangos bod degau o filoedd o weithwyr yn wynebu triniaeth annheg a diffyg cyfle i weithio. Canfu’r ymchwil:

  • Bod mwy nag 1 o bob 3 yn dweud nad ydynt yn cael eu talu’n deg yn y gwaith.
  • Mae 1 o bob 5 yn dweud na fyddent yn teimlo’n gyfforddus yn codi mater sy’n ymwneud â gwaith gyda’u rheolwr – y gyfradd uchaf o unrhyw grŵp oedran.
  • Mae 1 o bob 3 yn dweud ei bod yn anodd iddyn nhw gael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu eu gyrfa.

Daw’r alwad i roi blaenoriaeth i ansawdd swyddi gweithwyr ifanc wrth i TUC Cymru lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â nifer isel y bobl ifanc yn y mudiad undebau llafur. Mae llai nag un o bob 20 aelod undeb rhwng 16 a 24 oed, ac mae dros hanner y cynrychiolwyr undeb yn 50 oed a hŷn. Nod y pecyn newydd Cyrraedd Gweithwyr Iau yw helpu undebau i drefnu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn effeithiol.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Ar bob mesur economaidd, mae gweithwyr ifanc wedi talu pris mawr i amddiffyn aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf. Maen nhw wedi bod yn fwy tebygol o golli eu swydd nag unrhyw grŵp oedran arall, wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu wedi gweld eu hincwm yn gostwng.

“Mae’n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau’r degawd diwethaf ac nad ydym yn caniatáu cynnydd pellach mewn gwaith ansicr o ansawdd isel. Rydyn ni eisiau gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu gwthio i unrhyw hen swydd yn unig, ond yn hytrach, eu bod yn gallu cael gwaith gyda chyflog ac amodau teg, a lle mae eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Mae yna her enfawr hefyd i undebau yng Nghymru. Gwyddom am y gwahaniaeth y gall undebau ei wneud yn y gweithle. Ond mae’r mudiad yn wynebu dibyn demograffig ac mae angen i ni wneud gwaith llawer gwell wrth gyfathrebu â gweithwyr ifanc. Nod ein pecyn cymorth newydd Cyrraedd Gweithwyr Iau yw rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gynrychiolwyr undebau i wneud gwahaniaeth.”

Nodyn y golygyddion

Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol:  Gweler y gyfres ddata yma: X01 Marchnad lafur ranbarthol: Amcangyfrifon o gyflogaeth yn ôl oedran.

Data TUC Cymru/YouGov: Daw’r holl ffigurau gan YouGov Plc, oni nodir yn wahanol. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,194 o oedolion. Cafodd yr arolwg ei gynnal ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion Cymru (16+ oed).

Gwybodaeth am TUC Cymru: Mae TUC Cymru yn bodoli i wella amodau economaidd a chymdeithasol gweithwyr yng Nghymru, ni waeth a ydynt mewn swydd ai peidio ar hyn o bryd. Mae ei fandad a’i bwrpas yn adeiladu ar rôl ei undebau llafur cysylltiedig unigol. Mae gweithwyr yn ymuno ag undebau llafur i gynrychioli eu buddiannau, ac mae’r undebau hyn yn cysylltu â’r TUC i sefydlu agenda ar y cyd, y cytunwyd arni’n ddemocrataidd mewn Cyngres a gynhelir bob dwy flynedd ac sy’n cael ei rheoli gan y Cyngor Cyffredinol sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae tua 400,000 o bobl yn aelodau o undebau llafur yng Nghymru. Mae’r mwyafrif helaeth o’r bobl hyn yn aelodau o undebau llafur sy’n gysylltiedig â TUC Cymru.

Contact

Joe Allen – Wales TUC  
Jallen@tuc.org.uk

078 775 295 68