Yn dilyn adroddiad y Senedd heddiw ar ddyfodol gweithio o bell yng Nghymru, mae TUC Cymru yn galw am i unrhyw fuddsoddiad mewn gweithio o bell neu weithio gartref gael ei gyfateb â buddsoddiad i helpu’r rheini nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith gartref. Gallai hyn gynnwys mesurau fel cymorth i dalu costau cludiant cyhoeddus, ymgysylltu â gweithwyr ynghylch lleoliad cyfleusterau gofal plant, neu hyd yn oed newid dalgylchoedd ysgolion i ystyried lle mae pobl yn gweithio yn ogystal â byw.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae gweithio gartref a gweithio o bell yn dwyn llawer o fanteision i lawer o weithwyr, a bydd llawer o bobl yn awyddus i barhau i weithio fel hyn neu mewn model sy’n cyfuno ar ôl i’r pandemig ddod i ben.
“Ond mae’n rhaid i ni ddilyn model sy’n grymuso gweithwyr i wneud y penderfyniad sy’n gweddu orau i’w hanghenion, ac ni allwn gymryd yn ganiataol y bydd buddsoddiad cyhoeddus yn arwain at ganlyniadau tecach oherwydd bod y bwriadau’n rhai da. Nid dyma sut mae ein marchnad lafur yn gweithio.
“Yn lle hynny, mae angen i ni fod yn agored iawn am yr heriau sy’n gysylltiedig ag ymyrryd yma, a sefydlu mecanweithiau hefyd i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu clywed ar hyd y ffordd. Fel arall, mae perygl i ni greu mwy o fraint a mwy o anfanteision.”
Canfu pôl piniwn newydd a gynhaliwyd gan YouGov ar ran TUC Cymru:
Mewn ymchwil a oedd yn edrych ar sut roedd patrymau gweithio wedi newid yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gwelwyd bod y rheini sy’n gweithio gartref yn unig yn fwy tebygol o fod yn raddedigion ac mewn swyddi sy’n talu’n well hefyd. Roedd y rheini mewn grwpiau galwedigaethau â chyflogau is yn tueddu i fod yn llawer llai tebygol o weithio gartref – dim ond tua 1 o bob 5 o’r rheini mewn galwedigaethau elfennol oedd yn gweithio gartref. Roedd 84% o’r rheini a oedd â lefelau isel o gymwysterau ffurfiol yn gweithio y tu allan i’w cartrefi.
Daw galwad TUC Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd ar weithio o bell. Mae’r adroddiad hwnnw’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi’n glir beth yw effaith economaidd-gymdeithasol ei pholisi gweithio o bell newydd, a mynd i’r afael â phryderon mai dim ond gweithwyr cefnog a fyddai’n elwa’n bennaf.
Ychwanegodd Shavanah Taj:
“Mae’r newid mawr i weithio o bell yn ystod y pandemig wedi bod o fudd anghymesur i bobl dosbarth canol – felly mae angen i ni ganolbwyntio’n glir ar sut gallwn ni wneud yn siŵr bod yr ymyriadau yn y farchnad lafur yn wirioneddol gynhwysol, ac nad ydynt yn creu mwy o fraint.
“Does dim modd gwneud llawer o swyddi gartref. Ac mae llawer o’r swyddi hyn yn cael eu gwneud gan y rheini a oedd yn dal i fynd allan i weithio drwy gydol y pandemig i redeg ein gwasanaethau iechyd, i ddarparu bwyd i ni ac i sicrhau bod ein cyfleustodau’n gweithio. Mae’n gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn awr ar sut y gallwn roi cymorth i fwy o bobl os ydynt am weithio o bell, ond dylai hynny fod yng nghyd-destun set ehangach o fesurau sy’n gwneud gwaith yn haws i bawb.”
Nodyn i Olygyddion