Dyddiad cyhoeddi
Mae mwy nag un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru yn ofni y byddan nhw'n colli eu swydd yn y chwe mis nesaf, yn ôl ymchwil newydd.

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos effaith Covid-19 ar weithwyr ledled y wlad ac yn dilyn ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Cyhoeddus sy'n dangos bod Cymru wedi profi'r cynnydd mwyaf sydyn mewn diweithdra mewn unrhyw ranbarth o’r DU.

Dywedodd 27% o'r gweithwyr a holwyd eu bod yn poeni am gael eu diswyddo yn y dyfodol agos – tra bod bron i un o bob tri (32%) yn dweud eu bod yn disgwyl i'w sefyllfa ariannol waethygu rhwng nawr a'r haf.

Canfu arolwg YouGov, a geisiodd farn gan fwy na 1000 o weithwyr ledled Cymru, hefyd fod 43% yn ystyried diweithdra a'r bygythiad i swyddi fel un o'r heriau mwyaf taer sy'n wynebu'r wlad.

Cefnogodd gweithwyr ymestyniad y cynllun ffyrlo yn ogystal â galwadau am fwy o gymorth ariannol i weithwyr isafswm cyflog ar sydd ffyrlo. Nodwyd cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chreu swyddi drwy fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd fel meysydd blaenoriaeth i’r llywodraeth.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Mae'n ddealladwy bod gweithwyr yn bryderus am eu dyfodol. Mae’r argyfwng Covid wedi amlygu'r gwendid a'r anghydraddoldebau yn ein heconomi ac mewn marchnad lafur sydd wedi dibynnu'n ormodol ar waith ansicr ac ansefydlog.

"Mae angen i ni weld rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn seilwaith a sector cyhoeddus Cymru. Mae ymchwil TUC Cymru wedi dangos y cyfleoedd i greu degau o filoedd o swyddi drwy ariannu trawsnewidiad cyfiawn i economi wyrddach a thecach. Mae angen i lywodraethau – yng Nghymru a San Steffan – weithredu i ddiogelu bywoliaethau ac i gynnig diogelwch i weithwyr Cymru"

Nodyn y golygyddion

Comisiynodd TUC Cymru YouGov i gynnal gwaith pleidleisio ddiwedd 2020. Mae'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, yn dod o YouGov Plc.  Cyfanswm maint y sampl oedd 1,030 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 26 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2020.  Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein.

TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith, sy'n cynrychioli 48 o undebau llafur cysylltiedig gyda 400,000 o aelodau mewn gweithleoedd ledled y wlad.