Dyddiad cyhoeddi
• Mae data newydd o arolwg TUC Cymru/YouGov o weithwyr yng Nghymru yn dangos mai buddsoddi yn y sector cyhoeddus yw’r brif flaenoriaeth – ochr yn ochr â buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd.
• Ceir cefnogaeth i godiadau cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus – gyda chefnogaeth arbennig o gryf ar gyfer nyrsys, gweithwyr gofal, glanhawyr a phorthorion ysbytai.
• Mae gweithwyr hefyd yn cefnogi datganoli rhagor o bwerau i Fae Caerdydd – gan ffafrio gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ynghylch lles, trethi a datblygu economaidd.
• Dywedodd Shavanah Taj, yr Ysgrifennydd Cyffredinol: “Mae angen Llywodraeth Cymru arnom sy’n mynd i frwydro dros swyddi da, undebau cryfach a Chymru sy’n fwy cyfartal”.

Mae TUC Cymru yn galw ar bleidleiswyr i ethol Llywodraeth newydd i Gymru a fydd yn rhoi blaenoriaeth i fwy o gydraddoldeb yn y gweithle ac yn brwydro i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.

Daw’r alwad wrth i ddata newydd gan YouGov, a gomisiynwyd gan TUC Cymru, ac a fanylir yn adroddiad newydd y sefydliad Securing a Fair Recovery ddangos:

  • Prif flaenoriaeth gweithwyr ar gyfer yr adferiad yw cynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol – gyda 42% yn dewis hyn. Mae buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd – band eang, trafnidiaeth drydanol, ôl-osod yn y cartref – hefyd yn cael ei ffafrio.
  • Mae gweithwyr eisiau codiadau cyflog yn gyffredinol ar gyfer proffesiynau’r sector cyhoeddus. Mae nyrsys (85%), gweithwyr gofal (82%), glanhawyr a phorthorion ysbytai (77%) yn denu lefelau arbennig o gryf o gefnogaeth gyhoeddus.
  • Mae cefnogaeth i wahardd contractau dim oriau (55%-26%) a rheolaethau rhenti yn y sector rhentu preifat (66%-8%)
  • Mae gweithwyr hefyd yn cefnogi gweld penderfyniadau allweddol am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru ar iechyd (56%-29%), addysg (60%-27%), datblygu economaidd (53%-30%), lles (47%-37%) a threthi (43%-40%).
  • Mae bron i dair gwaith yn fwy o weithwyr yn credu bod angen ailgydbwyso economi Cymru gyda rheoleiddio cryfach i ddiogelu hawliau gweithwyr.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos realiti enbyd ein marchnad lafur i ddegau o filoedd o weithwyr ledled Cymru. Mae gweithwyr ifanc, gweithwyr BAME, a phobl mewn swyddi ansicr wedi cael eu taro’n anghymesur – gan golli swyddi, incwm, sgiliau a chyfleoedd.

“Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael bargen well i weithwyr Cymru – boed hynny drwy gryfhau’r ddeddfwriaeth diogelwch Covid i sicrhau gweithleoedd mwy diogel neu drwy bwyso am weithredu ar gyflogau ac amodau yn y sector gofal cymdeithasol.

“Ond os ydym am ailadeiladu Cymru decach a mwy cadarn, mae angen i ni nawr fynd ymhellach ac yn gyflymach.

“Mae angen Llywodraeth Cymru arnom sy’n mynd i frwydro dros swyddi da, undebau cryfach a Chymru sy’n fwy cyfartal”.

Yn ei Faniffesto Gweithwyr ar gyfer Cymru Tecach, mae TUC Cymru wedi galw am:

  • Fuddsoddiad yn seilwaith gwyrdd Cymru a allai arwain at greu 60,000 o swyddi gwyrdd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
  • Mwy o gyllid ar gyfer sgiliau.
  • Llywodraeth Cymru i gyflawni ei Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau hiliol systemig yng Nghymru.  
Nodyn y golygyddion
  • Daw’r holl ffigurau gan YouGov Plc, oni nodir yn wahanol. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,194 o oedolion. Cafodd yr arolwg ei gynnal ar-lein. Mae’r ffigurau wedi cael eu pwysoli ac yn cynrychioli'r holl oedolion yng Nghymru (16+ oed). Mae rhagor o fanylion am y canfyddiadau a'r adroddiad Securing a Fair Recovery llawn ar gael yma: What Workers in Wales Want: 5 Priorities for the Next Senedd Term | TUC

Cysylltiadau: 

Joe Allen

jallen@tuc.org.uk

078 775 295 68