Dyddiad cyhoeddi

Mae llawer gormod o bobl Cymru’n gweithio mewn swyddi ansefydlog ac ansicr, am gyflog isel.  Yn hytrach na rhoi cyfle i unigolion a chymunedau symud ymlaen, mae gwaith, i lawer o bobl, wedi troi’n fagl sy’n eu caethiwo mewn tlodi. 

Mae’n achosi gorbryder, salwch a dadrithiad – yn troi gobaith am y dyfodol yn ofn. 

Rhaid i ni newid hyn.

Fel gwlad, allwn ni ddim fforddio hyn.

Fel cymdeithas, ddylen ni ddim derbyn hyn.

Fel undebwyr llafur, wnawn ni ddim gadael i hyn ddigwydd.   

Drwy negodi gyda’r undebau mae ein cyflogwyr gorau’n cynnig swyddi rhagorol.  Mae angen i ni sicrhau mai dyma’r norm yng Nghymru. 

Mae angen i ni sicrhau gwaith priodol sy’n gwella bywydau - gwaith lle rydych yn cael eich trin â thegwch ag urddas; lle gofynnir a ydych yn cytuno a lle caiff eich llais ei glywed; lle mae eich tâl yn gwirioneddol adlewyrchu eich cyfraniad; lle mae gennych sicrwydd, cydraddoldeb a chyfle i ddatblygu eich hun. 

Mae angen i ni ddefnyddio pob lifer, pob grym a phob ymyriad y gallwn fanteisio arno, a gwneud Cymru’n wlad gwaith teg.

Ni fydd hynny’n dasg hawdd o ystyried yr heriau rydym yn eu hwynebu - Brexit, cyni, mwy o alw am wasanaethau, problemau economaidd-gymdeithasol sylfaenol a chymunedau cyfan sydd wedi cael eu gadael i lawr gan y farchnad rydd. 

Ond y fantais sydd gennym yw bod mwyafrif cynyddol yng Nghymru wedi ymrwymo i weithredu – ac mae llywodraeth Cymru, yr undebau a chyflogwyr yn bartneriaeth gymdeithasol a all gyflawni hyn.

Rydym yn dathlu 20 mlynedd ers datganoli yr wythnos hon, a dyma’r adeg briodol i adeiladu ar ein partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, i’w chryfhau a’i hategu.

Bydd partneriaeth gymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol gan alluogi Cymru i wrthsefyll sioc economaidd Brexit a sicrhau bod Cymru’n barod i wynebu’r holl heriau eraill sydd o’n blaenau.   

Mae partneriaeth gymdeithasol yn hollbwysig er mwyn gwneud Cymru’n wlad gwaith teg.

Ond yn ychwanegol at hyn, mae arnom eisiau cyflawni ein hymrwymiadau fel cenedl Ewropeaidd fodern. 

Mae gwaith priodol – a rôl deialog gymdeithasol er mwyn sicrhau hyn – yn ganolog i’r cytuniadau gafodd eu gwneud pan sefydlwyd yr UE.  Beth bynnag fydd perthynas y DU gyda’r UE yn y dyfodol, yma yng Nghymru rhaid i ni gadw a gwella’r ymagwedd honno.

Dylai sicrhau gwaith teg drwy bartneriaeth gymdeithasol fod yn amcan cenedlaethol cyffredin i Gymru. 

Mae gennym gyfle i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol blaengar i’n gwlad ddatganoledig.

Ymagwedd genedlaethol yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol a’r penderfyniad i sicrhau gwaith teg i’n pobl – gwaith cynhyrchiol, priodol, sy’n talu’n dda.

Mae hynny hyd yn oed yn fwy pellgyrhaeddol na’r ffordd y mae gweinidogion Cymru’n ymddwyn yn y llywodraeth.  Mae’n ymwneud â sut rydym yn sicrhau newid sylfaenol yn y ffordd y mae llywodraethu’n digwydd yng Nghymru.

 

Felly mae TUC Cymru yn galw am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol i roi sail statudol i’n partneriaeth.  Byddai’r ddeddf yn

  • cyflwyno dyletswydd sector cyhoeddus i sicrhau gwaith teg drwy bartneriaeth gymdeithasol,

- gwneud grantiau, benthyciadau a chontractau’r llywodraeth yn amodol ar sicrhau gwaith teg,

  • ac yn bwysig iawn, cyflwyno mecanweithiau gorfodi er mwyn sicrhau mai ffordd Cymru o weithio mewn partneriaeth yw’r unig ffordd i unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau neu sydd eisiau i’r llywodraeth eu cefnogi.

Gadewch i ni fod yn glir hefyd ynglŷn â chyfraniad pwysig undebau er mwyn sicrhau gwaith teg. 

Does gan weithwyr unigol ddim perthynas bŵer gyfartal â’u cyflogwr – yr unig ffordd o sicrhau hynny yw drwy gyfuno lleisiau unigol i greu un llais cyfunol ar gyfer gweithwyr.

Yma yng Nghymru, rydyn ni’n gwybod yn iawn beth yw manteision undebau.  

  • Cydraddoldeb, triniaeth deg ac urddas.

· Gweithleoedd diogel ac iach.

· Oriau, gwyliau a thâl salwch priodol.

· Tâl priodol am y gwaith, yn hytrach nag isafswm cyflog.

  • Sicrwydd swyddi a chyfle i gael rhagor o sgiliau a symud ymlaen.

Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau gwaith teg yw drwy gydfargeinio a llais cyfunol – drwy undebau effeithiol yn y gweithle.

Mae hynny’n cael ei gydnabod yn fyd-eang gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae hefyd yn cael ei gydnabod gan Fanc y Byd a’r OECD.

Dylai sicrhau gwaith teg, drwy ymestyn cydfargeinio a mynediad at lais undeb yn y gwaith, fod yn rhan greiddiol o fusnes llywodraeth Cymru – a dylai cyflawni hyn fod yn brawf o lwyddiant llywodraeth.

Dylem hefyd gael ymagwedd ddinesig gyffredin at gyflogwyr sydd heb undebau yng Nghymru, ymagwedd sy’n dweud;

  • dylech gydnabod undebau,

- dylech gyflawni telerau cytundebau cyfunol,

  • dylech ganiatáu mynediad parhaus at undeb i gynrychioli barn gyfunol y gweithlu a threfnu undebau yn y gweithle.

Pam ddim?  Beth sydd yna i’w ofni?

Edrychwch ar y manteision sylfaenol -

  • cynhyrchiant uwch,

· llai o drosiant staff,

· gwella cymhelliant a sgiliau staff,

· mynediad ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a’n cyfleoedd caffael

  • cymorth ariannol a chymorth arall gan y llywodraeth i helpu i gyflawni ein hamcanion cyffredin.

Mae adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg a gyhoeddwyd y mis hwn yn cynnwys nifer o bwyntiau tebyg i’r hyn sydd yng nghynllun chwe phwynt TUC Cymru i sicrhau gwaith teg. 

Nid yw’n syndod bod panel arbenigwyr annibynnol ar wahân yn dod i gasgliadau tebyg i gynigion TUC Cymru – mae ein hundebau’n gwneud galwadau rhesymol, a’u cymhelliant yw pennaf les Cymru a gweithwyr Cymru.

Felly rydym yn gofyn i lywodraeth Cymru heddiw gytuno i weithredu cynigion TUC Cymru i sicrhau gwaith teg drwy bartneriaeth gymdeithasol.

Nid ydym yn dweud bod partneriaeth gymdeithasol yn hawdd. 

Bydd rhai meysydd dadleuol.

Bydd barn pobl ynglŷn â’r manylion yn amrywio.

Bydd angen negodi caled a bydd angen bod yn ddisgybledig er mwyn dod i gytundeb.

Ond bydd y wobr yn werth yr ymdrech – ac mi allwn ni gyflawni hyn.

Yng Nghymru mae’r amodau delfrydol gennym i sicrhau gwaith teg; 

  • mwyafrif cynyddol sydd â’r ewyllys i weithredu,

- llywodraeth a senedd sydd â’r gallu i weithredu,

  • undebau a chyflogwyr sydd wedi ymrwymo gant y cant i sicrhau canlyniadau sydd o fudd i’r ddwy ochr.

Ond yng Nghymru mae angen i ni weithredu ar unwaith hefyd i sicrhau gwaith teg;

  • i bobl y mae rhywrai’n camfanteisio arnynt ar hyn o bryd,

- er mwyn gwella’r rhagolygon i’n pobl ifanc a’n heconomi yn y dyfodol,

  • i’n galluogi i ddal ein pen yn uchel fel gwlad fodern, flaengar.

Dyma beth yw pwrpas datganoli.

Rhaid i ni fynd amdani.

Martin Mansfield yw Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

Nodyn y golygyddion

Darllenwch sut y buom yn ymgyrchu i wneud Cymru'n genedl gwaith teg: www.tuc.org.uk/gwneud-cymrun-wlad-gwaith-teg?language=cy

Gallwch helpu i wneud Cymru yn lle tecach i weithio drwy ymuno ag Undeb