Dyddiad cyhoeddi
Roedd 190,000 o weithwyr yng Nghymru wedi gweithio cyfanswm o 80 miliwn o oriau’n ddi-dâl yn 2019. Mae unigolyn cyffredin sy’n gweithio oriau goramser wedi gweithio am ddim hyd yma eleni. Rhaid amddiffyn yr hawl i weithio oriau rhesymol yng nghytundeb yr UE, meddai’r TUC.

Roedd cyflogwyr yng Nghymru wedi hawlio gwerth £1.2bn o lafur am ddim y llynedd oherwydd bod gweithwyr wedi bod yn gweithio oriau goramser am ddim, yn ôl dadansoddiad o ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener) gan y TUC.

Roedd bron i 200,000 o bobl wedi gweithio 8.0 awr yr wythnos o oriau goramser yn ddi-dâl ar gyfartaledd yn ystod 2019. Ar gyfartaledd, mae hynny gyfwerth â thynnu £6,300 o becynnau cyflog unigol.

Mae heddiw’n Ddiwrnod Gweithio Eich Oriau Cywir blynyddol y TUC. Dyma’r 16eg tro i ni gynnal y diwrnod hwn, ac mae’n nodi’r ffaith fod yr unigolyn cyffredin sy’n gweithio oriau goramser wedi gweithio am ddim eleni i bob pwrpas.

Wrth i Brydain ddechrau trafod masnach â’r UE, mae’r TUC yn galw am ddiogelu hawliau gweithwyr y DU - gan gynnwys y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith - mewn unrhyw gytundeb.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae gormod o fosys yn llwyddo i fanteisio ar ewyllys da eu gweithwyr. 

“Ond yn hytrach na chryfhau mesurau diogelwch, mae gweinidogion Boris Johnson yn dymuno defnyddio Brexit fel esgus i gael gwared â’r mesurau diogelwch prin sydd gennym yn barod.

“Mae staff sy’n gorweithio yn cael effaith ar gynhyrchiant, mae gweithwyr yn teimlo’n flinedig ac yn llawn straen ac mae’n amharu ar yr amser y dylent ei dreulio gyda theulu a ffrindiau.

Dyna pam mae gofyn i unrhyw gytundeb masnach â’r UE sicrhau bod hawliau cyflogaeth, fel y rhai sy’n dod o dan y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith, yn cael eu diogelu yn y dyfodol.”