Mae’r dadansoddiad yn dangos bod 4.7% o weithlu Cymru wedi bod yn gweithio gartref yn 2018.
Mae nifer y bobl sy’n gweithio gartref wedi cynyddu 27% ledled y DU yn ystod y degawd diwethaf.
Ond does dim digon o reolwyr yn rhoi'r opsiwn i'w gweithwyr weithio gartref – a allai helpu pobl i weld mwy ar eu teuluoedd a gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae TUC Cymru yn amcangyfrif bod tua 4 miliwn yn fwy o weithwyr yn y DU yn dweud y byddent yn hoffi gweithio gartref am gyfran o’u hwythnos waith o leiaf – ond nad ydynt yn cael y cyfle i wneud hynny.
Mae’r dadansoddiad yn datgelu’r canlynol ledled y DU:
Dywedodd Rhianydd Williams, Swyddog Polisi TUC Cymru:
“Mewn nifer o achosion, mae gweithio gartref yn golygu bod pawb ar ei ennill. Mae gweithwyr yn cael mwy o amser gyda’u teuluoedd, gall cyflogwyr roi hwb i gynhyrchiant a dal gafael ar staff arbenigol, ac mae o fudd i'r amgylchedd hefyd.
“Ond mae gormod o gyflogwyr yng Nghymru yn bwrw ymlaen â’r hen drefn, neu dydyn nhw ddim yn ymddiried digon yn eu staff i fynd ati i annog gweithio gartref. Mae angen iddyn nhw afael ynddi a datblygu.
“Gall undebau helpu i negodi polisïau gweithio gartref sy’n fuddiol i gyflogwyr a staff. A dylai'r llywodraeth fod yn buddsoddi mewn seilwaith band eang er mwyn sicrhau y gall pob gweithiwr gael cysylltiad cyflym iawn yn eu cartrefi.”
Dywedodd Phil Flaxton, Prif Weithredwr Work Wise UK, y sefydliad sy’n trefnu Diwrnod Cenedlaethol Gweithio Gartref:
“Er ei bod yn galonogol gweld cynnydd sylweddol yn nifer y gweithwyr sy’n gweithio gartref, mae angen newid diwylliannol er mwyn i hyn gael ei dderbyn yn fwy helaeth.
“Mae agweddau’n newid o ran sut rydym yn cydbwyso neu’n cymysgu gwaith a bywyd. Mae’r cynnydd ym meysydd symudedd a thechnoleg yn newid pa mor dderbyniol neu angenrheidiol yw patrymau 9-5 traddodiadol, a gellir disodli'r rhain â dull mwy hyblyg o ymdrin â'r wythnos waith. Bydd y duedd hon yn parhau wrth i fwy ohonom groesawu ffyrdd newydd a chlyfrach o weithio, fel gweithio gartref.
“Mae angen i fwy o gyflogwyr sylweddoli beth fyddai manteision newid arferion gwaith sydd wedi dyddio i adlewyrchu'r byd cysylltiedig rydyn ni’n byw ynddo. Mae’r rhain yn cynnwys gwella cynhyrchiant, dal gafael ar staff, llai o absenoldeb a llai o staff yn chwythu plwc.
“Mae’r achos busnes yn gadarn a gall fod o fudd i bawb sy’n rhan ohono, heb os.”
DIWEDD
Mae Rhianydd Williams, Swyddog Polisi TUC, ar gael i roi rhagor o sylwadau.
- Nifer y gweithwyr sy’n gweithio gartref yn rheolaidd ledled y DU
2008 |
% o’r gweithlu |
2018 |
% o’r gweithlu |
|
Dynion |
865,000 |
6.7 |
1,062,000 |
7.6 |
Menywod |
483,000 |
3.8 |
659,000 |
4.8 |
Pob un |
1,348,000 |
5.2 |
1,722,000 |
6.1 |
Ffynhonnell: Arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol o'r Gweithlu Llafur C4
- Nifer y gweithwyr sy’n gweithio gartref yn rheolaidd yn ôl gwlad/rhanbarth yn 2018
Rhif |
% o’r gweithlu |
|
Gogledd-ddwyrain |
45,000 |
4.2% |
Gogledd-orllewin |
168,000 |
5.6% |
Swydd Efrog a'r Humber |
166,000 |
7.5% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
125,000 |
6.2% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
158,000 |
6.7% |
Dwyrain |
172,000 |
6.6% |
Llundain |
217,000 |
5.7% |
De-ddwyrain Lloegr |
292,000 |
7.6% |
De-orllewin Lloegr |
188,000 |
8.1% |
Cymru |
61,000 |
4.7% |
Yr Alban |
106,000 |
4.5% |
Gogledd Iwerddon |
22,000 |
3.1% |
Y DU |
1,722,000 |
6.1% |
Ffynhonnell: Arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol o'r Gweithlu Llafur C4
- Nifer y gweithwyr sy’n gweithio gartref yn rheolaidd ledled y DU yn 2018 yn ôl diwydiant
Rhif |
% o'r gweithlu |
|
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota |
31,000 |
15.4% |
Gweithgynhyrchu |
184,000 |
6.5% |
Cyflenwad trydan, nwy ac aer |
34,000 |
12.0% |
Adeiladu |
186,000 |
13.8% |
Cyfanwerthu ac adwerthu |
136,000 |
3.6% |
Cludo a storio |
95,000 |
5.8% |
Gwestai a bwytai |
25,000 |
1.6% |
Cludiant, storio a chyfathrebu |
95,000 |
5.8% |
Cyllid ac yswiriant |
25,000 |
1.6% |
Eiddo tirol, rhentu a gweithgarwch busnes |
469,000 |
12.3% |
Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn |
108,000 |
5.2% |
Addysg |
91,000 |
3.0% |
Iechyd a gwaith cymdeithasol |
159,000 |
3.9% |
Gweithgareddau gwasanaeth eraill |
108,000 |
7.6% |
Pob diwydiant |
1,722,000 |
6.1% |
Ffynhonnell: Arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol o'r Gweithlu Llafur C4
- Nifer y gweithwyr sy’n gweithio gartref yn rheolaidd ledled y DU yn 2018 yn ôl oedran
Rhif |
% o'r gweithlu |
|
16-19 |
16,000 |
1.6% |
20-29 |
207,000 |
3.4% |
30-39 |
345,000 |
6.0% |
40-49 |
444,000 |
7.5% |
50-59 |
433,000 |
7.6% |
60+ |
254,000 |
11.0% |
Pob oed |
1,722,000 |
6.1% |
- TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 49 o aelod-undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym ni’n ymgyrchu dros driniaeth deg yn y gwaith ynghyd â chyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.
Cysylltiadau:
Emma Bean
ebean@tuc.org.uk
020 7467 1257
07725 144 696
Swyddfa’r wasg TUC
media@tuc.org.uk
020 7467 1248
Wales TUC Cymru
029 2034 7010
Phil Flaxton – Work Wise UK
phil@workwiseuk.org
07831 112639