Dyddiad cyhoeddi
Mae gweithwyr ifanc yng Nghymru dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y sectorau sy’n wynebu'r risg fwyaf o ran swyddi. Mae’n hanfodol ehangu cynlluniau cefnogi cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â’r bygythiad o ddiweithdra tymor hir.

Mae dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd gan TUC Cymru heddiw yn dangos mai gweithwyr ifanc (25 oed ac iau) sy’n wynebu’r risg fwyaf o fod yn ddi-waith yn sgil argyfwng y coronafeirws. 

Mae’r dadansoddiad yn cymharu risgiau diweithdra cysylltiedig â Covid-19 ar draws sectorau diwydiannol ac yn edrych ar broffil oedran y gweithwyr yn y sectorau hynny.

Mae pob gweithiwr yn wynebu risg uwch o ddiweithdra, ond y sectorau sy’n wynebu’r risg fwyaf yw ‘llety a bwyd’, a’r ‘celfyddydau, adloniant a hamdden’. 

Gweithwyr ifanc 

Mae’r dadansoddiad yn awgrymu, os na chymerir camau ar frys, y gallai Cymru wynebu ymchwydd mewn diweithdra ymysg pobl ifanc. 

  • O blith y 195,000 o weithwyr yng Nghymru sy’n 25 oed ac iau, mae 41,000 ohonynt yn gweithio ym meysydd llety a bwyd neu’r celfyddydau, adloniant a hamdden.
  • Mae hyn yn golygu bod 21% o weithwyr 25 oed ac iau yn gweithio yn y ddau sector yma, o’u cymharu â 6% o weithwyr dros 25 oed.
  • Felly, mae gweithwyr 25 oed ac iau dair gwaith yn fwy tebygol o weithio yn un o'r ddau sector lle mae swyddi fwyaf mewn perygl. 

Yn ogystal â chael eu diswyddo, mae cyfnodau o ddirwasgiad yn ei gwneud yn anoddach i bobl ifanc sydd eisiau ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf, oherwydd dydy cyflogwyr ddim yn cyflogi cymaint. Mae hyn yn esbonio’n rhannol pam mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn tueddu i fod yn uwch nag y mae ymysg gweithwyr eraill yn dilyn dirwasgiad. 

Mae nifer y swyddi gwag yn y DU eisoes wedi gostwng 25% o’u cymharu â’r adeg hon y llynedd. Y sector â'r gostyngiad mwyaf yw llety a bwyd (42%).

Galw ar y llywodraeth i weithredu 

Mae’n rhaid i lywodraethau – yng Nghymru a'r DU – weithio gyda busnesau ac undebau i amddiffyn cymaint o swyddi â phosibl. Dylai hyn gynnwys ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi ar gyfer cyflogwyr nad yw’n hawdd iddyn nhw addasu i gadw pellter cymdeithasol.

Mae TUC Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn rhaglenni cefnogi cyflogaeth ac ehangu cynlluniau sy’n cefnogi gweithwyr ifanc, fel Twf Swyddi Cymru. 

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro TUC Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod bod taith anodd o’n blaenau. Ond po fwyaf y bobl sy’n gweithio, y cyflymaf fyddwn ni’n gallu gweithio ein ffordd allan o’r dirwasgiad. 

“Mae’n rhaid i’n cynllun adfer cenedlaethol ni ganolbwyntio ar swyddi o ansawdd uchel sy’n gynhwysol, yn deg ac yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth sy’n gweithio yng Nghymru – gan amddiffyn y swyddi sydd gennym ni a chreu mwy ohonynt. Mae angen mwy o swyddi da arnom ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan – ym maes gofal cymdeithasol, ym maes y dechnoleg werdd mae ein dyfodol yn dibynnu arni, ac yn y sector gweithgynhyrchu sydd angen ei adfywio.

“Efallai y bydd angen cymorth ar rai diwydiannau am gyfnod hirach drwy’r cynllun cadw swyddi, er mwyn iddyn nhw allu cadw staff wrth addasu i’r safonau diogelwch newydd.

“Rydyn ni hefyd eisiau gweld mwy o gymorth ar gyfer y bobl hynny sy’n colli eu swyddi. Allwn ni ddim caniatáu i bobl ifanc wynebu'r gofid a ddaw yn sgil diweithdra tymor hir. Mae tystiolaeth bod cynlluniau fel Twf Swyddi Cymru yn llwyddo, ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n sicrhau bod help ar gael i’r rheini mae ei angen arnynt.   

“Y ffordd orau o adfer yn gyflymach ac ailadeiladu’n well yw sicrhau bod gan bawb swydd dda a chyflog teg.” 

Nodyn y golygyddion

- Dadansoddiad llawn TUC: Gallwch weld y dadansoddiad llawn mae’r datganiad hwn yn seiliedig arno yn y nodyn ymchwil sydd i'w weld drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/2020-06/Young%20workers%20and%20at%20risk%20industries%20-%20research%20note%20-%20final%20draft.pdf 

Effaith argyfwng y coronafeirws ar weithwyr ifanc: Mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos bod gweithwyr dan 25 oed tua 2.5 gwaith yn fwy tebygol na gweithwyr eraill o weithio mewn sector sydd wedi cau ar hyn o bryd. https://www.ifs.org.uk/uploads/BN278-Sector-shutdowns-during-the-coronavirus-crisis.pdf

Ymchwil ar weithwyr ifanc a diweithdra tymor hir:  Fe wnaeth astudiaeth gan Brifysgol Bryste nodi bod cyfnodau hir o ddiweithdra yn gallu effeithio ar brofiadau pobl o’r farchnad lafur yn nes ymlaen yn eu bywydau, ar ffurf cyflogau is a chyfraddau diweithdra uwch. Mae’n dangos bod yr effeithiau hyn ar bobl ifanc sy’n wynebu diweithdra tymor hir yn sylweddol, o’u cymharu â phobl sy’n wynebu hynny yn nes ymlaen yn eu bywydau. https://www.bristol.ac.uk/media-library/sites/cmpo/migrated/documents/wp97.pdf