Dyddiad cyhoeddi
Wrth sôn am y ffigurau cyflogaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (dydd Mawrth), dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:

"Mae'r rhain yn ffigurau sy'n peri pryder. Gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn dod i ben, mae bygythiad diweithdra torfol yn real iawn. Unwaith eto, gweithwyr ifanc, ymadawr ysgol a choleg sy'n ceisio ymuno â'r farchnad Lafur am y tro cyntaf a menywod, yn bennaf yn y sector manwerthu a lletygarwch, sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Mae’n rhaid i'r Llywodraeth weithredu'n awr i ddiogelu a chreu swyddi.

"Mae hynny'n golygu adeiladu ar y cynllun cadw swyddi drwy sefydlu cytundebau cadw swyddi ac uwchsgilio newydd, er mwyn cadw pobl yn gyflogedig mewn cwmnïau sydd â dyfodol hyfyw. Heddiw rydym wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Drysorlys y DU gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn galw am sefydlu cynllun o'r fath yn gyflym.

"Ac mae'n golygu creu swyddi da, newydd hefyd. Mae dadansoddiad diweddar gan y TUC yn dangos y gallai'r llywodraeth greu 59,000 o swyddi mewn dwy flynedd drwy gyflymu buddsoddiad mewn seilwaith  gwyrdd.

"Pan ddechreuodd yr argyfwng, dywedodd y Canghellor y byddai'n gwneud 'beth bynnag y mae'n  ei gymryd'. Rhaid iddo gadw'r addewid hwnnw."

Drobwynt

Wrth sôn am ddadansoddiad diweddar gan y TUC sy'n dangos y gofynnwyd i weithwyr BME ‘ysgwyddo mwy o risg’ yn ystod y pandemig, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:  "Mae Coronavirus wedi amlygu'r anghydraddoldebau enfawr y mae menywod a dynion BME yn eu hwynebu yn y gwaith – gyda llawer yn gorfod ysgwyddo mwy o risg yn ystod yr argyfwng hwn.

"Mae gweithwyr BME yn cael eu gorgynrychioli'n aruthrol mewn swyddi cyflog isel sydd ddim yn cael eu gwerthfawrogi, a swyddi achlysurol, dim oriau gyda lle mae gan weithwyr llai o hawliau a dim tâl salwch. Yn ystod y pandemig mae  llawer o bobl BME wedi talu am yr amodau gwaith gwael hyn gyda'u bywydau.

"Mae'n rhaid i'r argyfwng hwn fod yn drobwynt. Rhaid i'r Llywodraeth herio'r hiliaeth systemig a'r anghydraddoldeb sy'n dal pobl BME yn ôl yn y gwaith, a thu hwnt."