"Ni ellir y clychau larwm fod yn canu'n uwch. Rhaid i’r llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd weithredu i amddiffyn a chreu swyddi."
"Mae hynny'n golygu ymestyn y cynllun cadw swyddi i fusnesau dichonol na allant weithredu oherwydd cyfyngiadau'r firws. Mae'n golygu cymryd camau i ddiogelu swyddi o ansawdd da yn y sectorau gweithgynhyrchu a hedfan sydd dan fygythiad yng Nghymru. Mae'n golygu buddsoddi yng ngwaith teg a’r swyddi teg y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol mewn diwydiannau gwyrdd, adeiladu a gofal cymdeithasol. Ac mae'n golygu sicrhau bod rhwyd ddiogelwch yn ei lle i helpu'r rhai sy'n colli eu swyddi i fynd yn ôl ar eu traed."
"Po fwyaf o bobl sydd mewn gwaith, y cyflymach bydd yr economi'n gwella o'r argyfwng hwn."
TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.