Shavanah yw Ysgrifennydd Cyffredinol BAME cyntaf TUC Cymru. Ymunodd o’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), lle’r oedd yn Ysgrifennydd Cymru o 2013.
TUC Cymru yw’r corff ambarél ar gyfer yr undebau llafur ac mae’n cynrychioli 48 o undebau cysylltiedig a 400,000 o aelodau undebau llafur yng Nghymru.
Yn ogystal â hyn, bydd gan Shavanah rôl i’w chwarae ledled y DU i arwain ymgyrch TUC i gynyddu nifer y cynrychiolwyr BAME sydd yn y mudiad undebau, ochr yn ochr â thasglu gwrth-hiliaeth TUC.
Mae’n cymryd yr awenau gan Martin Mansfield a ddaliodd y swydd am 12 mlynedd o 2008 ymlaen.
“Mae gan ein mudiad undebau llafur rôl hollbwysig i’w chwarae i sicrhau ein bod yn adeiladu Cymru well a thecach wrth i ni adfer ar ôl pandemig Covid. Rydw i wrth fy modd y bydda i’n gallu chwarae fy rhan fel Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Mae’r argyfwng dros y flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau dwfn yn ein cymdeithas. Unwaith eto, gweithwyr BAME, gweithwyr dosbarth gweithiol a gweithwyr ifanc sydd wedi wynebu’r caledi mwyaf.
“Ond rydw i’n credu bod y pandemig hefyd wedi agor llygaid llawer o bobl. Ac mae awydd cynyddol am newid go iawn. Fel undebau llafur, mae angen i ni fanteisio ar y cyfle i adeiladu, tyfu ac ennill ar faterion allweddol sy’n bwysig i weithwyr.
“Mae gennym ni agenda uchelgeisiol ac ymarferol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, ochr y cyflogwr a phartneriaid cymdeithasol ehangach i ddarparu gwaith teg i weithwyr ledled Cymru.”
Gwybodaeth am Shavanah Taj
Cyn ymuno â PCS fel swyddog amser llawn yn 2002, bu Shavanah yn gweithio ym maes manwerthu, mewn canolfannau galwadau ac yn y trydydd sector.
Rhwng 2018 a 2019, hi oedd Llywydd TUC Cymru.
Cafodd Shavanah ei geni a’i magu yng Nghaerdydd, a’i thrwytho yn y mudiad undebau llafur. Roedd ei thad yn gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch yn y gwaith dur.
“Roedd bob amser yn ein hannog i sefyll i fyny drosom ni ein hunain a sefyll gydag eraill pan fyddant mewn angen” meddai Shavanah.
Mae Shavanah yn frwd ynghylch cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.
Mae hi’n un o noddwyr Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru (“Show Racism the Red Card Wales”), ac yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad Henna sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais ar sail anrhydedd.
Mae hi’n un o ymddiriedolwyr Fio, grŵp theatr ar lawr gwlad sy’n annog pobl ifanc dosbarth gweithiol i gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl a Sefydliad Bevan.
Mae Shavanah yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac mae’n briod gyda dau o blant ifanc, 7 a 9 oed.
Gwyliwch araith Shavanah yng Nghyngres TUC Cymru yn ddiweddar yma:
Cyngres TUC Cymru 2021: Shavanah Taj // Anerchiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol - YouTube