Dyddiad cyhoeddi
Mae ffigurau newydd yn datgelu bod nifer y contractau dim oriau yng Nghymru wedi cynyddu 35% rhwng 2018 a 2019. Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd contractau dim oriau.


Mae ffigurau newydd a rannwyd gan TUC wedi datgelu bod nifer y bobl ar gontractau dim oriau yng Nghymru wedi cynyddu fwy na thraean mewn 12 mis.

Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 50,000 o bobl yng Nghymru ar gontract dim oriau. Mae hyn wedi cynyddu o 37,000 yn 2018, sy’n 3.4% o'r holl bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru – y gyfradd uchaf ar gofnod.

Dywedodd Julie Cook, Swyddog Cenedlaethol TUC:

“Mae pawb yn haeddu sicrwydd ynglŷn â'r oriau maen nhw’n eu gweithio bob wythnos, felly mae’n annerbyniol bod nifer y contractau dim oriau yng Nghymru wedi cynyddu fwy na thraean mewn cwta flwyddyn.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl ar gontractau dim oriau eisiau rhoi diwedd arnynt. Yr unig hyblygrwydd maen nhw’n ei gynnig yw hyblygrwydd i gyflogwyr.

“Mae angen i Lywodraeth y DU gael gwared â’r contractau annheg yma. Mae angen swyddi cadarn ar weithwyr yng Nghymru, gyda sicrwydd o oriau.”

Mae TUC Cymru yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i wneud y canlynol:

  • Gwahardd contractau dim oriau.
  • Cyflwyno cyfnod rhesymol i roi gwybod am shifftiau, a thâl am shifftiau sy’n cael eu canslo.
  • Gweithredu hawliau gweithiwyr yn fwy helaeth.
  • Ei gwneud yn haws i undebau llafur gael mynediad at weithleoedd i roi gwybod i weithwyr sut gallai ymaelodi ag undeb llafur wella eu bywyd gwaith.