Dyddiad cyhoeddi
Wrth sôn am ffigurau'r Sefydliad Cyflog Byw heddiw (dydd Llun) sy'n dangos bod 22% o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw go iawn, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:

"Dylai pobl sy'n gweithio ennill bywoliaeth dda.

"Yma yng Nghymru, mae llawer o'r gweithwyr sy'n ein cael drwy'r argyfwng hwn – fel gofalwyr, staff archfarchnadoedd a gyrwyr cyflenwi – yn ennill llai na'r Cyflog Byw go iawn.

"Nid yw'n iawn fod cynifer o'n gweithwyr yn ei chael hi'n anodd talu eu rhent a'u biliau a bwydo eu teuluoedd.

"Addawodd y prif weinidog 'lefelu Prydain lan’. Rhaid i Lywodraeth y DU ddechrau drwy weithio gydag undebau i 'lefelu lan' cyflog ac amodau ledled y DU.

"Yma yng Nghymru, rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â thâl isel drwy ein hagenda gwaith teg.

"Mae ein fforwm gofal cymdeithasol, a sefydlwyd mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, yn enghraifft o'n hymdrechion i leihau cyflogau isel yn y sector gofal annibynnol.

"Rydym wedi ymrwymo i wneud cynnydd tebyg ar draws pob sector yng Nghymru."

Nodyn y golygyddion

Gweithlu a delir o dan y Cyflog Byw

(Ffynhonnell: Y Sefydliad Cyflog Byw, Cyflogeion a dalwyd islaw Cyflog Byw 2020)

 

Cyfran islaw’r Cyflog Byw - Ebrill 2020 (%)

Cyfran islaw’r Cyflog Byw - Ebrill 2019 (%)

Newid 2019-2020 (%)

Cymru

22.4%

22.5%

-0.1%

DU

20.3%

20.0%

+0.3%

Mae TUC Cymru yn bodoli i wneud y byd gwaith yn lle gwell i bawb. Rydym yn dod â mwy na 400,000 o bobl sy'n gweithio yng Nghymru at ei gilydd fel rhan o'n 48 undeb sy'n aelodau. Yr ydym yn cefnogi undebau i dyfu a ffynnu, ac yr ydym yn sefyll dros bawb sy'n gweithio.

Cysylltiadau â'r wasg TUC Cymru:

E-bost: fdean@tuc.org.uk

Ffôn: 07770 384363