Mae data newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn datgelu nad yw 253,424 o weithwyr yng Nghymru – sef 20% o’r gweithlu yng Nghymru – yn derbyn cyfraniadau gan eu cyflogwyr tuag at bensiwn gweithle.
Mae cofrestru awtomatig i dderbyn pensiynau gweithle wedi bodoli ers mis Hydref 2012. Mae wedi helpu i gynyddu’r gyfran o weithwyr yn y DU sydd â phensiynau gweithle o 45% yn 2012 i 77% yn 2019.
Fodd bynnag, mae miliynau o weithwyr yn parhau i gael eu heithrio oherwydd nad oes raid i gyflogwyr gofrestru staff sy’n ennill llai na £10,000 y flwyddyn neu o dan 22 oed yn awtomatig.
Mae’r rheolau hefyd yn eithrio’r £6,136 cyntaf o gyflog wrth gyfrifyddu’r cyfraniad lleiaf yn seiliedig ar y cyflog a enillir.
Mae’r effaith gyfunol yn golygu bod gweithwyr ar gyflogau isel yn colli allan ar hyd at £300 o gyfraniadau pensiwn gan eu cyflogwr bob blwyddyn.
Mae gweithiwr rhan-amser mewn risg arbennig o golli allan. Dim ond 58% o weithwyr rhan-amser yn y DU sy’n perthyn i bensiwn gweithle, o’i gymharu â 86% ar gyfer gweithwyr llawn amser. Mae hyn yn golygu bod merched yn cael eu heffeithio yn anghyfartal, oherwydd eu bod deirgwaith yn fwy tebygol na dynion i fod mewn gwaith rhan-amser.
Dywed y TUC fod gweithwyr yn gyffredinol angen cyfanswm cyfraniadau o 15% o’u cyflog o leiaf er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw incwm digonol pan maen nhw’n ymddeol. Mae corff yr undeb yn galw ar y llywodraeth i gael gwared â therfynau enillion a chodi lleiafswm y cyfraniad sydd ei angen gan gyflogwyr.
Dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae cofrestru awtomatig wedi helpu llawer mwy o bobl sydd mewn gwaith i gael cyfraniadau pensiwn gan eu cyflogwr.
“Ond mae’r rheolau presennol yn eithrio llawer o weithwyr ifanc a bregus sy’n derbyn y cyflogau isaf. Dyna pam mae cymaint o bobl yng Nghymru yn parhau i fod heb bensiwn.
“Dim mwy o esgusodion – mae’n amser i lywodraeth y DU weithredu a rhoi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn. Mae cynlluniau pensiwn yn rhan hanfodol o enillion pobl. Dylai fod cyfraniad pensiwn ym mhob pecyn cyflog.”