Dyddiad cyhoeddi
dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, sef pecyn £40m i gefnogi’r rheini sy’n dymuno gloywi eu sgiliau yn y gwaith neu ddod o hyd i swydd newydd. Rydym yn croesawu’r cyllid sydd wedi’i addo i sicrhau y gall 5,000 o brentisiaid ddechrau neu barhau gyda’u hyfforddiant. Rydym yn ymwybodol y bydd hyn o fudd i lawer o weithwyr iau y mae’r argyfwng economaidd wedi effeithio’n anghymesur arnynt.

“Roeddem hefyd yn falch o weld bod tua £9m wedi’i addo i helpu pobl i gadw eu swyddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd, gan gynnwys trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn.”