Ar hyn o bryd mae’r TUC yn ymgyrchu dros Dâl Salwch i bob gweithiwr a thâl ar gyfer y rhieni sy’n cymryd amser i ffwrdd i ofalu am eu plant. Mae undebau llafur yng Nghymru hefyd yn cydweithio i ymgyrchu dros weithwyr yn eu sectorau.
Undebau iechyd a’r GIG
Mae TUC Cymru ac undebau iechyd eraill wedi llofnodi llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Darllenwch y llythyr yn llawn ac os ydych chi’n weithiwr iechyd yng Nghymru, llofnodwch y llythyr eich hunan.
Incwm ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau a’r cyfryngau
Mae Ffederasiwn yr Undebau Adloniant yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno gwarant incwm i weithwyr llawrydd a hunangyflogedig wrth i COVID-19 ledaenu. Maent yn dweud:
“Mae goleuadau theatrau wedi’u diffodd, mae lleoliadau cerddoriaeth yn dawel ac mae cynyrchiadau ffilm a theledu wedi cau. Mae dyddiaduron gwaith newyddiadurwyr a thynwyr lluniau yn wag.
“Dydy’r rhan fwyaf o weithwyr llawrydd ddim yn gymwys i gael tâl salwch statudol os nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd y feirws a’r unig opsiwn sydd ganddynt yw’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol. Mae’r budd-daliadau lles hyn ar gyfer y bobl hynny sydd ar incymau isel neu ddim incwm o gwbl, felly nid ydynt yn briodol ar gyfer y rheini sy’n gwneud bywoliaeth o hunangyflogaeth.
“Mae angen i’r Llywodraeth gamu i mewn ar unwaith i’n helpu ni.”