Dyddiad cyhoeddi
Dywedodd Shavanah Taj, yr Ysgrifennydd Cyffredinol:

“Y risg fwyaf sy’n dal i wynebu economi Cymru yw’r methiant i reoli’r coronafeirws. Er y cynnydd sydd wedi’i wneud, mae'r nifer cynyddol o achosion yn y safleoedd prosesu cig Cymru wedi tanlinellu’r heriau rydym yn eu hwynebu.

“Yn gyffredinol, rydym wedi cefnogi dull gofalus a gwyddonol Llywodraeth Cymru i lacio mesurau’r cyfyngiadau symud. Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad iawn i wrthwynebu’r pwysau i ddilyn penderfyniadau anghyfrifol Llywodraeth y DU. Rydym yn credu ar hyn o bryd mai parhau i ddilyn y rheol o gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yw’r ffordd orau o ddiogelu gweithwyr yng Nghymru.

“Bywydau’r gweithwyr yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae’r asiantaethau sy’n gorfod gwneud yn siŵr bod y gweithleoedd yn ddiogel wedi’u tanseilio’n sylweddol gan 10 mlynedd o galedi. Dyma pam rydym wedi bod yn galw ar sefydlu Tasglu Iechyd a Diogelwch newydd yng Nghymru, er mwyn dod ag asiantaethau gorfodi, yr undebau, Llywodraeth Cymru a chyflogwyr ynghyd i ymgymryd â dull rhagweithiol, cydraddol a strategol o ddiogelu’r gweithle.

“Rydym angen cymryd camau brys ynghylch tâl salwch hefyd. Mae disgwyl i weithwyr sy’n derbyn cyflogau isel hunanynysu am gyfnodau estynedig am £95 yr wythnos. Nid yw hyn yn deg nac yn gynaliadwy. Rydym eisiau gweld cyfradd y Tâl Salwch Statudol yn cynyddu i o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol. Os nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu ar hyn yna dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda ni i ganfod atebion yn syth.”