Dyddiad cyhoeddi
• Mae data newydd gan TUC Cymru/YouGov yn dangos mai dim ond 1 o bob 4 cyflogwr yng Nghymru sy’n dilyn rheoliadau Covid Llywodraeth Cymru – 13 mis i mewn i’r argyfwng.
• Mae llai na 50% o weithwyr yng Nghymru yn dweud bod eu cyflogwr wedi cynnal yr asesiad risg Covid gofynnol.
• “Mae gormod o gyflogwyr yn dal i gymryd diogelwch gweithwyr yn ysgafn”, meddai TUC Cymru.
• Bydd munud genedlaethol o dawelwch yn cael ei chynnal ganol dydd i dalu teyrnged i’r holl bobl sydd wedi marw oherwydd eu bod yn gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Heddiw (dydd Mercher) mae TUC Cymru yn galw am gymryd camau llymach yn erbyn penaethiaid yng Nghymru sy’n dal i fethu â chyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelwch yn y gweithle oherwydd Covid.

Daw’r alwad wrth i weithwyr ledled y byd baratoi i nodi Diwrnod Rhyngwladol Cofio Gweithwyr er cof am y rheini sydd wedi marw neu sydd wedi cael eu hanafu neu eu heintio yn y gwaith.

Mae data newydd o ymchwil a wnaed gan YouGov ar ran TUC Cymru yn dangos:

  • Mai dim ond 47% o weithwyr sy’n dweud bod eu cyflogwr wedi cynnal asesiad risg diogel-o-ran-Covid yn y gweithle – sy’n ofynnol o dan reoliadau Covid Llywodraeth Cymru.
  • Mai dim ond 23% o weithwyr sy’n dweud yr ymgynghorwyd â nhw ynghylch unrhyw asesiad risg Covid – er bod hyn hefyd yn rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Dywedodd mwy nag 1 o bob 5 gweithiwr eu bod yn y niwl ynghylch beth i’w ddisgwyl gan eu cyflogwyr – gan ddweud eu bod naill ai’n gwybod dim neu ychydig iawn am gyfrifoldebau cyflogwyr o ran diogelwch Covid.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio Gweithwyr, rydyn ni’n cofio’r rheini sydd wedi marw, ac yn addunedu i frwydro dros weithleoedd diogel i bawb.

“Byddwn yn nyled y gweithwyr a fu farw yn ystod y pandemig hwn am byth - nyrsys, gofalwyr, gyrwyr bysiau a llawer mwy.

“Fe gollon nhw eu bywydau yn gofalu am ein hanwyliaid ac yn cadw ein gwlad i redeg yn y cyfnod anoddaf un.

“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod mwy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â chyflogwyr sy’n dal i gymryd diogelwch gweithwyr yn ysgafn.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yng Nghymru, dros flwyddyn i mewn i’r argyfwng hwn, yn dal i fethu yn eu cyfrifoldebau cyfreithiol sylfaenol i gadw gweithwyr yn ddiogel.

“Os nad yw cyflogwyr yn mynd i weithredu, mae angen i’r cyrff sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith eu dal i gyfrif.

“Ni allwn dderbyn dim mwy o esgusodion bellach. Dylai pob cyflogwr fod yn siarad â’i weithwyr ac yn cynhyrchu asesiad risg cynhwysfawr yn y gweithle ac yn cymryd pob cam angenrheidiol i leihau’r risg.”

Y funud genedlaethol o dawelwch dros y rheini sydd wedi marw

Mae TUC Cymru yn gofyn i aelodau’r cyhoedd gadw munud o dawelwch am hanner dydd.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod dros 11,000 o bobl oed gweithio ledled y DU wedi marw ers dechrau’r pandemig.

Bydd undebau’n arwain y funud genedlaethol o dawelwch ger Cofeb y Gweithwyr y tu allan i swyddfeydd TUC Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd Llywydd TUC Cymru ac Ysgrifennydd Rhanbarthol GMB ar gyfer Cymru a De Orllewin Lloegr, Ruth Brady, yn ymuno â Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr o undebau cysylltiedig eraill.

Nodyn y golygyddion

- Data Arolwg TUC Cymru/YouGov: Gofynnwyd i’r ymatebwyr “Pa rai o’r mesurau canlynol, os oes rhai o gwbl, sydd wedi cael eu cymryd i leihau’r risg o Covid yn eich gweithle?”. Daw’r holl ffigurau gan YouGov Plc, oni nodir yn wahanol. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,194 o oedolion. Cafodd y gwaith maes ei gynnal rhwng 1af a 6ed Ebrill 2021.  Cafodd yr arolwg ei gynnal ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion Cymru (16+ oed).

- Mae deddfwriaeth y coronafeirws – a gafodd ei chryfhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr – yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gynnal asesiad risg Covid penodol yn y gweithle ac ymgynghori â’u gweithlu ar yr asesiad hwnnw.

- Bob blwyddyn ar 28 Ebrill, mae undebwyr llafur ledled y byd yn uno i gofio’r rheini sydd wedi marw yn ystod eu gwaith. Eleni, bydd y TUC yn cofio’r niferoedd mawr o weithwyr sydd wedi colli eu bywydau oherwydd y coronafeirws, gan gofio hefyd y rheini sydd wedi marw o achosion eraill.  

- Bydd seremoni Diwrnod Rhyngwladol Cofio Gweithwyr TUC Cymru yn cael ei chynnal o 11.45am ymlaen ger Cofeb y Gweithwyr y tu allan i swyddfeydd TUC Cymru yn 1, Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SD. Bydd areithiau byr gan Ysgrifennydd Cyffredinol a Llywydd TUC Cymru cyn cynnal y funud o dawelwch. 

Cysylltiadau: 

jallen@tuc.org.uk

078 775 295 68