Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru wedi croesawu llythyr Llywodraeth Cymru at gyflogwyr sy'n derbyn y Gronfa Cadernid Economaidd, gan eu hatgoffa o'u hymrwymiad i waith teg.

Mae tua 13,000 o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o'r Gronfa hyd yma. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod hyn wedi helpu i ddiogelu tua 100,000 o swyddi.

Mae pawb sy'n derbyn arian gan y Gronfa yn ymrwymo i egwyddorion y Contract Economaidd, sy'n cynnwys gwaith teg, datgarboneiddio a nodau sgiliau'r gweithlu.

Roedd y llythyr at fusnesau gan Ken Skates MS, Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn datgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur ac eraill i newid bywydau gwaith pobl er gwell fel bod mwy o bobl yn gallu cael gwaith da ac incwm diogel a theg. Fel rhan o hyn, mae'r llywodraeth yn cefnogi ehangu mynediad i undebau llafur a chytundebau cyfunol i helpu i wireddu'r uchelgais o wneud Cymru'n genedl Gwaith Teg, ac mae'n disgwyl i gyflogwyr sy'n cael arian cyhoeddus ganiatáu i undebau llafur gael mynediad a cheisio sefydlu cytundeb cydnabod lle mae gweithwyr yn gofyn amdano.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj: "Rydym yn falch iawn bod y Gweinidog wedi blaenoriaethu mynediad undebau llafur yn ei lythyr at dderbynwyr y Gronfa Cadernid Economaidd. Dyma ddull 'rhywbeth am rywbeth' Llywodraeth Cymru ar waith – os ydych yn cael arian cyhoeddus, yna ni ddylech gael unrhyw wrthwynebiadau i undeb llafur gysylltu â'ch gweithlu. Mae ganddo'r potensial i wneud gwaith yn decach i filoedd o bobl ledled y wlad.

"Rydym bob amser wedi dweud, os na fydd cyflogwr yn gadael undeb i mewn, dylai hynny canu clychau larwm. Mae'n arwydd clir bod rhywbeth nad yw'n iawn am eu harferion cyflogaeth. Cydnabu Llywodraeth Cymru hyn ac mae'n amlwg ei bod yn disgwyl i unrhyw un sy'n cael arian cyhoeddus ganiatáu i'w gweithwyr wireddu eu hawliau llafur a'u hawliau dynol yn llawn."

Ychwanegodd Shavanah Taj: "Mae hwn yn gyfle i ni adeiladu'n ôl yn well. Estyn allan at fwy o weithwyr ledled Cymru gan gynnwys y rhai mewn gweithleoedd anodd eu cyrraedd fel gweithwyr sy’n creu dillad a gweithwyr warws sy’n aml ar delerau ac amodau ansicr. Mae’n gyfle i ni drefnu'r gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd ar draws y diwydiannau celfyddydol, cerddoriaeth, trin gwallt a harddwch. Mae'r Gweinidog wedi gofyn am i'w lythyr gael ei rannu â gweithwyr ac i weithwyr cael eu hannog i ddefnyddio teclyn darganfod undeb y TUC i ddod o hyd i’r undeb llafur cywir ar eu cyfer. Mae'r neges yn syml – os nad ydych eisoes mewn undeb llafur, ymunwch ag un heddiw i wneud eich gweithle yn decach i chi a'ch cydweithwyr."