Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion dywedodd Rhianydd Williams, Swyddog Polisi Cydraddoldeb TUC Cymru:
"Mae aelodau Undebau yn dweud wrthym ni faint o broblem sy'n codi ym maes iechyd meddwl yng ngweithleoedd Cymru. Ac mae penaethiaid gwael, contractau dim oriau ac arferion gwael yn y gweithle yn gallu gwneud eich iechyd meddwl yn waeth.
"Rydym yn gwybod bod dynion yn llai tebygol o chwilio am gymorth ar gyfer eu problemau iechyd meddwl na menywod ac yn fwy tebygol y gyflawni hunanladdiad. Nawr mae angen i ni gasglu tystiolaeth gan weithwyr er mwyn i ni allu mynd â'n canfyddiadau i gyflogwyr a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol.
"Rydym yn cynnal arolwg cenedlaethol i ddarganfod mwy am iechyd meddwl a’r gweithle yng Nghymru. Bydd y canlyniadau yn ein helpu ni i greu adnoddau defnyddiol ynglŷn â sut y gall gweithleoedd wella iechyd meddwl a llesiant ar gyfer pawb.
"Er mwyn deall yn llawn beth sy'n digwydd yng ngweithleoedd Cymru mae angen i ni glywed gan bawb yng Nghymru, ond hyd yma dim ond 20% o'r ymatebion i’r arolwg sydd wedi dod gan ddynion.
"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion rydym yn annog pob dyn yng Nghymru i gwblhau ein harolwg. Rydym hefyd yn gofyn i bawb rannu'r arolwg gyda'u cydweithwyr gwrywaidd, ffrindiau ac aelodau o'u teulu."
-TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 49 o undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gweithle ac ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.
-Yn ôl Mind bydd 1 o bob 4 o bobl yn y DU yn profi problem iechyd meddwl bob blwyddyn.
-Yn ôl arolwg y Mental Health Foundation, mae dynion sydd â phroblem iechyd meddwl nid yn unig yn llai tebygol na merched o fod wedi ceisio cymorth meddygol ar gyfer eu problem. Maent hefyd yn llai tebygol o ddweud wrth ffrindiau a theulu pan fydd problem yn datblygu.
-Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd 19.1 o hunanladdiadau fesul 100,000 o ddynion yng Nghymru yn 2018, roedd 6.9 o huanladdiadau fesul 100,000 o fenwyod yng Nghymru yn 2018.