Dyddiad cyhoeddi
Wrth sôn am gyhoeddiad adroddiad yr OECD heddiw ar ddyfodol datblygu rhanbarthol a buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Mae’r adroddiad heddiw gan yr OECD yn gyfraniad amserol a phwysig i'r ddadl ar sut y gall llywodraethau ar bob lefel yng Nghymru fynd ati i sicrhau economi fwy cynhyrchiol a chynhwysol.

"Mae'r adroddiad yn gywir i dynnu sylw at faint y mae mwy na degawd o lymder Llywodraeth y DU wedi dal cynhyrchiant economi Cymru yn ôl, ac yn galw am fwy o fuddsoddi mewn sgiliau ac ymchwil & datblygu.

"Mae'r OECD hefyd wedi tanlinellu'r angen am weledigaeth glir a chydlynol ar gyfer buddsoddi a datblygu rhanbarthol. Mae Mesur Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn cynrychioli ymgyrch i gipio grym yn y maes hwn na ellir ei gyfiawnhau ac mae'n bygwth tanseilio gallu Cymru i gyflawni gweledigaeth o'r fath.

"Byddem yn llawn disgwyl fod y trefniadau llywodraethu datblygu economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno ar sail yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'n briodol yr ymrwymiadau y maent wedi'u gwneud ar ymgorffori partneriaeth gymdeithasol ar draws y llywodraeth. Rhaid i weithwyr yng Nghymru gymryd rhan lawn yn y gwaith o wneud y penderfyniadau a fydd yn effeithio eu bywydau gwaith.

"Mae cael y llywodraethu'n iawn ar gyfer datblygu rhanbarthol yn bwysig. Ond yn y pen draw ni all ailstrwythuro a newidiadau sefydliadol ddatrys heriau cynhyrchiant Cymru.

Yr allwedd i economi fwy cynhyrchiol a chyfartal yng Nghymru yw canolbwyntio'n ddidrugaredd ar Waith Teg i bawb - lle caiff gweithwyr eu gwobrwyo, eu clywed a'u cynrychioli'n deg, yn ddiogel ac yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu.

"Mae’r pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni ar y gweithwyr a'r cymunedau hynny sydd wedi wynebu anghydraddoldeb ac allgau economaidd-gymdeithasol hir-sefydlog. Dyma'r amser i ‘lefelu lan’ a sicrhau bod pob gweithiwr yn cael budd gwirioneddol o ddatblygu rhanbarthol.”