Dyddiad cyhoeddi
Rydym eisiau gosod dyletswydd gyfreithiol newydd ar gyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Ymunwch â'n hymgyrch wythnos CaruUndebau ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Yn ôl arolwg newydd gan TUC, mae 7 o bob 10 (68%) o bobl yn credu bod ymgyrch #MeToo wedi galluogi pobl i fod yn fwy agored ynghylch aflonyddu rhywiol.


Mae’r nifer yma ar ei huchaf ymysg menywod (72%) a phobl ifanc (78%).


Ond dywed y TUC fod achosion o aflonyddu rhywiol yn dal i fod yn ddychrynllyd o uchel, er gwaethaf y ffaith bod mwy o ymwybyddiaeth o’r mater.

 
Heddiw, mae’r ffederasiwn undebau yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith.


Daw’r alwad wrth i wythnos flynyddol CaruUndebau y TUC, sy’n dathlu gwaith undebau, gychwyn heddiw. Y thema eleni yw rhoi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn y gwaith. 


Aflonyddu rhywiol

Mae 1 o bob 2 menwyod wedi wynebu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Mae 1 o bob 2 menwyod wedi wynebu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Canfu ymchwil TUC fod dros hanner (52%) y menywod – a bron i ddwy ran o dair (63%) o fenywod ifanc 18-24 oed - wedi wynebu aflonyddu rhywiol yn y gwaith. 

Ymunodd tua 30,000 o fenywod ifanc yng Nghymru â’r gweithlu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac erbyn hyn mae bron 95,000 o fenywod ifanc yn gweithio.

Yn ôl y TUC, mae’n rhaid newid y gyfraith ar aflonyddu rhywiol ar fyrder i atal unrhyw achosion pellach o aflonyddu. 

Arwyddwch ein deiseb yn gofyn am ddeddf newydd ar aflonyddu rhywiol

 

Newid y gyfraith

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gyflogwyr atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd yn eu gweithleoedd. Yn hytrach, mater i’r dioddefwr yw rhoi gwybod amdano ar ôl iddo ddigwydd. 

Mae’r TUC am weld newid yn y gyfraith fel bod dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i wneud yn siŵr nad oes aflonyddu’n digwydd yn eu gweithleoedd - drwy gymryd camau ataliol syml fel cynnig hyfforddiant gorfodol i bob aelod o staff a rheolwyr, a rhoi polisïau clir ar waith.  

Byddai hyn yn golygu bod y baich o ddelio ag aflonyddu rhywiol yn symud o’r unigolion i’r cyflogwyr. Byddai hefyd yn newid diwylliant gweithleoedd ac yn atal y broblem unwaith ac am byth. 

Ymunwch a'n hymgyrch ar aflonyddu rhywiol

Oedi cyn ymateb i’r ymgynghoriad 

Roedd y llywodraeth ar fin cyhoeddi ei hymateb i’w hymgynghoriad ar newid y gyfraith ar aflonyddu rhywiol fis diwethaf. Ond mae’r ymateb hwnnw wedi cael ei ohirio erbyn hyn. 

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro TUC Cymru: “Mae ymgyrch #MeToo wedi helpu pobl i siarad yn fwy agored am aflonyddu rhywiol. Mae hyn yn beth da. 

“Ond dydy siarad am y broblem ddim yn mynd i’w datrys. Rhaid i lywodraeth y DU roi’r gorau i lusgo ei thraed a bwrw ati i newid y ddeddf. 

“Cyflogwyr, nid dioddefwyr, ddylai fod yn gyfrifol am fynd i’r afael ag aflonyddu yn y gwaith.

“Rydyn ni’n galw ar bawb sydd am roi terfyn ar aflonyddu rhywiol i ymuno â ni yn ystod wythnos CaruUndebau eleni, a mynnu bod gweinidogion yn gweithredu nawr.” 

Mae cynghrair TUC – gyda chefnogaeth dros 30 o fudiadau gan gynnwys Cymdeithas Fawcett, Imkaan, Amnesty International UK, Stonewall a Time’s Up UK – wedi lansio deiseb yn galw ar y llywodraeth i newid y gyfraith.  

Yn ystod wythnos CaruUndebau eleni, mae gweithwyr yn camu i’r adwy ac yn gweithredu – yn sgil methiant cyflogwyr a’r llywodraeth i wneud hynny - gan weithio gyda chynrychiolwyr undebau i arwain y gwaith o gymryd camau ataliol yn eu gweithleoedd.

Arwyddwch ein deiseb yn gofyn am ddeddf newydd ar aflonyddu rhywiol

Nodyn y golygyddion

- Mae wythnos CaruUndebau yn cael ei chynnal yr wythnos hon (10-16 Chwefror 2020). Mae’n wythnos o weithgareddau ledled Cymru a Lloegr sy’n tynnu sylw at y gwaith da mae undebau’n ei wneud bob dydd i roi llais i bawb yn y gwaith. I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yr wythnos hon, ewch i: www.tuc.org.uk/heartunions
- Cyfanswm maint y sampl a gymerodd ran yn yr arolwg oedd 2,198 o oedolion. Cafodd y gwaith maes ei gyflawni rhwng 5 a 6 Chwefror 2020.  Cafodd yr arolwg ei gynnal ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion Prydain Fawr (18 oed+).
- Mae bron 12,000 o bobl wedi llofnodi deiseb cynghrair y TUC ac mae ar gael yn: www.megaphone.org.uk/petitions/uk-gov-act-to-prevent-sexual-harassment-…
- Mae ymchwil TUC ar aflonyddu rhywiol ar gael yn: www.tuc.org.uk/news/nearly-two-three-young-women-have-experienced-sexua…
- Mae ymchwil TUC ar aflonyddu rhywiol mewn perthynas â phobl LGBT ar gael yn: www.tuc.org.uk/news/nearly-7-10-lgbt-people-say-they-have-been-sexually…
 

We need a new law to prevent sexual harassment at work The government needs to take immediate action