Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru am ymgyrchu dros wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.

Yn ystod ei Gyngres ddiweddar yn Llandudno fe benderfynodd yr undebau i gyd-weithio i ddwyn perswâd ar lywodraeth Cymru am yr angen i fynd i’r afael â chyflogau isel a chytundebau bregus.

Gwnaed penderfyniad gan cynrychiolwyr yr undebau i fabwysiadau’r datganiad yma o blaid Gwaith Teg:

“Bydd Brecsit yn dod â heriau ychwanegol i Gymru y bydd angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy.

Mae'r Gyngres yn credu'n gryf y bydd gwneud Cymru'n genedl Waith Deg yn sicrhau twf economaidd, swyddi gwell a mwy o gyfleoedd, nid yn lleiaf i'n pobl ifanc a'n cymunedau sydd eisoes yn wynebu anghyfiawnder economaidd.

Mae'r Gyngres yn croesawu ymrwymiad a chamau Llywodraeth Cymru tuag at genedl waith deg. Fodd bynnag, mae angen mabwysiadu dull traws lywodraeth sydd â digon o adnoddau a chefnogaeth a strwythurau syml clir sy'n canolbwyntio ar gyflwyno canlyniadau clir i alluogi gweithredu a chyflwyno'n llwyddiannus.

Felly mae'r Gyngres yn galw ar Gyngor Cyffredinol TUC Cymru i:

i) Lobïo a gweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu strwythur adnoddau priodol sy'n gysylltiedig â gweithredu strategaeth ddiwydiannol i geisio gweithredu a chyflwyno Cymru'n llawn fel Cenedl Gwaith Teg.

ii) Ymgyrch ar gyfer Deddf Gwaith Teg i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cynnwys:

a) gorfodi hawliau cyflogaeth statudol yn ddieithriad

b) partneriaeth gymdeithasol fel egwyddor ganolog o lywodraeth

c) cefnogaeth ac anogaeth i estyn bargeinio ar y cyd ac aelodaeth undeb llafur

d) datblygu strwythur partneriaeth gymdeithasol a all adnabod, cefnogi a mesur cyflwyno nodau / targedau gwaith teg

e) arwain newid diwylliannol o gwmpas Gwaith Teg a

f) defnydd arloesol o gaffael a ffrydiau ariannu

g) sicrhau bod gan gynrychiolwyr undebau llafur ddigon o amser ac adnoddau i ymgymryd â'u dyletswyddau” 

Mi fydd yr ymgyrch dros Waith Teg yn un o flaenoriaethau TUC Cymru yn y flwyddyn i ddod.