Hawliodd cyflogwyr yng Nghymru gwerth £717 miliwn o lafur am ddim y llynedd oherwydd bod gweithwyr wedi bod yn gweithio oriau goramser am ddim, yn ôl dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener) gan TUC Cymru.
Heddiw yw’r 17fed tro i Ddiwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn blynyddol y TUC gael ei gynnal. Ar y diwrnod hwn, mae gweithwyr yn cael eu hannog i orffen shifftiau’n brydlon, a chaiff rheolwyr eu hannog i gefnogi staff drwy osod llwyth gwaith rhesymol a sefydlu polisïau yn y gweithle sy’n diogelu rhag gorweithio.
Ledled y Deyrnas Unedig, roedd dros 3 miliwn o bobl wedi gweithio 7.7 awr yr wythnos o oriau goramser yn ddi-dâl ar gyfartaledd yn ystod 2020. Ar gyfartaledd, mae hynny’n cyfateb i £7,300 y flwyddyn o gyflog nad yw’n cael ei dalu am waith a wneir.
Yng Nghymru, roedd 8.4% o weithwyr yn gweithio goramser heb dâl, gan weithio 8.6 awr yr wythnos dros eu horiau ar gyfartaledd. Mae hynny’n cyfateb i £6,841 y flwyddyn o gyflog nad yw’n cael ei dalu, a dyma’r nifer uchaf o oriau heb eu talu sy’n cael eu gweithio bob wythnos yn y Deyrnas Unedig (gweler Tabl 3 yn y nodiadau)
Gyda llawer o weithwyr ar ffyrlo ac yn lleihau eu horiau gwaith i ofalu am blant, mae nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio yn yr economi wedi gostwng. O gymharu’r sefyllfa â’r blynyddoedd diwethaf, adlewyrchir hyn yn y nifer sylweddol is o weithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl. Mae cyfanswm yr oriau di-dâl a gwerth ariannol yr oriau di-dâl a weithiwyd hefyd wedi gostwng. (gweler Tabl 1 yn y nodiadau)
Rheolwyr a chyfarwyddwyr sy’n bennaf gyfrifol am y 10 prif swydd lle mae gweithio goramser yn ddi-dâl yn gyffredin. Mae’n awgrymu nad yw cyfrifoldebau ychwanegol staff lefel uwch yn cael eu cefnogi’n briodol gan gyflogwyr.
Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, mae athrawon yn uchel ar y rhestr. Mae’r her o gadw ysgolion yn agored i blant gweithwyr allweddol, tra’n darparu gwersi dysgu gartref hefyd, wedi cynyddu eu dwysedd gwaith. (gweler Tabl 2 yn y nodiadau)
Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno ‘Cyllideb Gweithwyr’ yr wythnos nesaf. Mae hynny’n golygu darparu’r cyllid angenrheidiol i fuddsoddi yn y swyddi a’r seilwaith gwyrdd sydd eu hangen ar Gymru i foderneiddio ein heconomi, y cyllid i sicrhau y gall pob gweithiwr allweddol yng Nghymru gael codiad cyflog, ac ymrwymo i godi’r isafswm cyflog i o leiaf £10 yr awr.
Mae TUC Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r Bil Cyflogaeth hirddisgwyliedig yn fuan. Mae’n cynnig cyfle hollbwysig i gryfhau amddiffyniadau yn erbyn dwysedd gwaith.
“Dydy llawer o bobl ddim yn hoffi cwyno am ddwysedd gwaith yn ystod y pandemig. Maen nhw’n teimlo’n ddiolchgar fod ganddyn nhw swydd o hyd. Ond mae’r ffigurau hyn yn dangos swm aint anhygoel o waith sy’n cael ei wneud yn ddi-dâl yng Nghymru a’r baich annheg sydd wedi cael ei roi ar lawer o weithwyr.”
“Dylai’r Canghellor gyflwyno ‘Cyllideb Gweithwyr’ sy’n cydnabod yr ymdrechion mae pobl wedi eu gwneud. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r cyllid ar waith fel y gall pob gweithiwr allweddol gael codiad cyflog. Ac er mwyn diogelu swyddi a busnesau, dylid ymestyn y ffyrlo tan ddiwedd y flwyddyn o leiaf.”
Dadansoddiad o’r oriau di-dâl a weithiwyd yn 2020
Tabl 1 – cymhariaeth o’r prif ddata ar gyfer 2020 â’r blynyddoedd diwethaf
|
2020 |
2019 |
2018 |
Nifer y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
3,365,668 |
5,127,469 |
5,013,434 |
% y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
12.1% |
18.5% |
18.2% |
Cyfanswm yr oriau wythnosol o oramser heb dâl |
26,044,365 |
39,031,340 |
37,637,328 |
Cyfanswm blynyddol y goramser (oriau) heb dâl |
1,354,306,965 |
2,029,629,667 |
1,957,141,061 |
Oriau di-dâl wythnosol ar gyfartaledd y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
7.7 |
7.6 |
7.5 |
Cyfanswm gwerth blynyddol goramser heb ei dalu |
£23,795,173,383 |
£35,011,111,756 |
£32,703,827,133 |
Colled flynyddol ar gyfartaledd i weithiwr sy’n gweithio goramser heb dâl |
£7,070 |
£6,828 |
£6,523 |
Tabl 2 – y 10 prif alwedigaeth ar gyfer y mwyaf o oriau goramser heb dâl
Galwedigaeth |
Cyfartaledd oriau goramser di-dâl yr wythnos ar draws: |
Cyfran sy’n gweithio goramser heb dâl |
Cyfanswm yr oriau goramser heb dâl wythnosol yn ôl galwedigaeth |
|
Pob gweithiwr |
Gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
|||
Prif Weithredwyr ac Uwch Swyddogion |
4.1 |
12.3 |
33.0% |
475,837 |
Rheolwyr/Cyfarwyddwyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
3.3 |
9.7 |
34.3% |
374,842 |
Uwch Swyddogion Gwasanaethau Gwarchodol |
2.9 |
11.4 |
25.9% |
175,463 |
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr Swyddogaethol |
2.9 |
9.9 |
28.8% |
2,937,396 |
Athrawon a Gweithwyr Addysg Proffesiynol |
2.6 |
10.7 |
24.5% |
4,072,781 |
Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol |
2.6 |
9.0 |
28.9% |
446,896 |
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr Ariannol |
2.6 |
8.8 |
29.2% |
229,249 |
Gweithwyr Proffesiynol Busnes, Ymchwil a Gweinyddu |
2.2 |
8.8 |
25.0% |
1,777,360 |
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr ym maes Manwerthu/Cyfanwerthu |
2.2 |
10.3 |
21.2% |
580,237 |
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr Cynhyrchu |
2.2 |
8.8 |
24.8% |
929,823 |
Tabl 3 – goramser heb dâl yn ôl rhanbarth yn y Deyrnas Unedig
Rhanbarth |
Cyfartaledd oriau goramser heb dâl yr wythnos, ar gyfer y rhai sy’n gweithio goramser heb dâl |
Cyfran y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
Cyfanswm y golled flynyddol (£ miliynau) |
Colled flynyddol ar gyfartaledd i'r rhai sy'n gweithio goramser heb dâl |
Gogledd-ddwyrain Lloegr |
7.2 |
9.0% |
£559 miliwn |
£5,795 |
Gogledd-orllewin Lloegr |
7.3 |
10.5% |
£1,977 miliwn |
£6,237 |
Swydd Efrog a Humberside |
7.7 |
10.4% |
£1,471 miliwn |
£6,250 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
6.7 |
11.5% |
£1,291 miliwn |
£5,550 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
7.9 |
13.0% |
£2,125 miliwn |
£6,709 |
Dwyrain Lloegr |
7.9 |
12.8% |
£2,318 miliwn |
£6,903 |
Llundain |
8.0 |
15.9% |
£6,292 miliwn |
£10,000 |
De-ddwyrain Lloegr |
7.8 |
13.6% |
£3,909 miliwn |
£7,279 |
De-orllewin Lloegr |
7.9 |
12.9% |
£1,913 miliwn |
£6,552 |
Cymru |
8.6 |
8.4% |
£717 miliwn |
£6,841 |
Yr Alban |
7.3 |
9.5% |
£1,434 miliwn |
£6,512 |
Gogledd Iwerddon |
8.1 |
6.6% |
£304 miliwn |
£6,303 |
Methodoleg ar gyfer y dadansoddiad: Mae’r dadansoddiad hwn gan TUC Cymru yn seiliedig ar ddata Arolwg Gweithlu Llafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Gorffennaf-Medi 2020. Mae TUC Cymru yn defnyddio chwarter Gorffennaf-Medi i gyfrifo cyfraddau goramser heb eu talu bob blwyddyn ar Ddiwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn. Mae pandemig Covid-19 wedi golygu mwy o amrywiaeth nag arfer yn y farchnad lafur yn ystod y flwyddyn. Mae data mwy diweddar (Medi-Tachwedd 2020) yn dangos bod nifer y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl yn cynyddu, ynghyd â nifer yr oriau goramser heb dâl mae pob un yn eu gweithio.
Dewis dyddiad ar gyfer Diwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn: Mae dyddiad y Diwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn fel arfer yn seiliedig ar gyfrifiad. Rydyn ni’n nodi’r diwrnod yn y flwyddyn pan fydd y gweithiwr cyffredin sy’n gweithio goramser di-dâl yn rhoi’r gorau i weithio am ddim i bob pwrpas – ac mae’r Diwrnod yn disgyn ar y dydd Gwener agosaf.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hwn bob amser wedi disgyn ar y dydd Gwener olaf ym mis Chwefror. Eleni, mae’r cyfrifiad yn cael ei effeithio’n sylweddol gan bobl sy’n gweithio llai o oriau yn ystod y pandemig. Mae hynny’n newid y gymhareb rhwng goramser heb dâl ac oriau cyflogedig, gan arwain at ddyddiad diweddarach.
Fodd bynnag, penderfynasom beidio â symud y dyddiad i fis Mawrth, gan fod disgwyliad eang erbyn hyn y bydd y Diwrnod yn disgyn ddiwedd mis Chwefror. Byddwn yn adolygu penderfyniadau ar ddyddiadau yn y dyfodol gan gyfeirio at unrhyw batrwm cyson sy’n dod i’r amlwg ar ôl y pandemig.
Gwybodaeth am TUC Cymru: Nod TUC Cymru yw gwneud y byd gwaith yn lle gwell i bawb. Gyda thros 48 o aelod-undebau, rydym yn dod â thros 400,000 o bobl sy’n gweithio yng Nghymru at ei gilydd. Rydym yn cefnogi undebau i dyfu a ffynnu, ac rydym yn sefyll dros bawb sy’n gweithio i ennill bywoliaeth.
Cysylltiadau:
Liam Perry - lperry@tuc.org.uk