Mae nifer y gofalwyr sy’n gweithio yng Nghymru ac ar draws y DU wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd lawer oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio. Mae nifer y bobl Anabl wedi cynyddu, yn enwedig yn ystod y pandemig, ac mae’r gweithlu’n gyffredinol yn heneiddio wrth i weithwyr ymddeol yn hwyrach.
Erbyn hyn, mae llawer mwy o bwysau ar ffrindiau a theulu i ddarparu gofal. Mae hyn yn golygu bod pobl yn gweithio ac yn gofalu am gyfnod hirach. Erbyn hyn, mae gan unigolyn cyffredin yng Nghymru siawns 50:50 o fod yn ofalwr erbyn bod yn 45 oed, ymhell cyn oedran ymddeol.
Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn ei chael hi’n anodd cydbwyso gofalu am anwyliaid â chadw cyflogaeth. Mae 149,812 o bobl yng Nghymru wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu, ac ymysg y rheini sydd wedi gallu aros mewn gwaith, mae 74,906 o ofalwyr sy’n gweithio yng Nghymru wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith.
Byddai cyfran uchel o’r gweithwyr hyn yn hoffi aros mewn gwaith cyflogedig, ond nid yw eu gwaith wedi bod yn ddigon hyblyg.
Heddiw, ar Ddiwrnod Gofalwyr Ifanc, mae TUC Cymru yn galw ar gyflogwyr i wneud rhagor i gefnogi eu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu. Dylai hyn gynnwys:
Mae TUC Cymru a Gofalwyr Cymru nawr yn casglu gwybodaeth gan weithwyr yng Nghymru am eu profiadau unigol o weithio a gofalu am rywun. Mae eu harolwg newydd yn holi am allu gweithwyr i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn ogystal â’r effaith y mae gofalu yn ei chael ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Byddant hefyd yn casglu data am yr hyn mae gweithleoedd yng Nghymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy bolisïau yn y gweithle, trefniadau gweithio hyblyg a mwy. Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i siarad â’r Llywodraeth am yr hyn sydd angen ei newid a gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr i wneud pethau’n well i’r rheini sy’n gofalu am eraill.
Bydd y corff undebau’n defnyddio canfyddiadau’r arolwg i greu adnoddau newydd i gynrychiolwyr undebau ac i siarad â’r Llywodraeth am yr hyn sydd angen ei newid a gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr i wneud pethau’n well i’r rheini sy’n gofalu am eraill.
Mae’r arolwg yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid dim ond i aelodau undebau. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’n cymryd rhyw 8 munud i’w lenwi.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Ni ddylid gorfodi unrhyw un i roi’r gorau i weithio neu i beidio â gallu symud ymlaen yn eu gyrfa oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Wrth i fwy a mwy ohonom ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn wrth i ni barhau i weithio, mae angen i gyflogwyr gamu i fyny a rhoi’r gefnogaeth a’r hyblygrwydd sydd eu hangen ar weithwyr a darparu seibiant i ofalwyr cyflogedig.
“Er ein bod yn gwybod yr ystadegau ynghylch faint o weithwyr yng Nghymru sy’n gofalu am eraill, mae angen i ni nawr glywed eich straeon personol. Sut beth fu jyglo gwaith a gofalu am eraill i chi? Beth mae eich cyflogwr wedi’i wneud i’ch helpu chi a allai fod yn ddefnyddiol i weithwyr eraill yng Nghymru? A sut mae’r mudiad Undebau Llafur yn eich helpu chi?”
“Efallai nad ydych chi’n meddwl amdanoch eich hun fel gofalwr ond os ydych chi’n darparu unrhyw fath o gymorth i bobl eraill, o gefnogaeth emosiynol i helpu i gymryd meddyginiaethau neu reoli arian rhywun, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.”