Dyddiad cyhoeddi
Mae Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, wedi gwneud sylwadau ar benderfyniad y Prif Weinidog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. 


Dywedodd Martin Mansfield: 

"Mae gan Gymru anghenion aruthrol o ran datblygu seilwaith  - yn y Gogledd a'r De - ym meysydd trafnidiaeth, tai ac ynni. 

"Mae'n eironig braidd bod Ysgrifennydd Gwladol San Steffan yng Nghymru yn beirniadu'r penderfyniad hwn pan taw ei Lywodraeth ef sydd wedi torri pob prosiect seilwaith sylweddol yng Nghymru o lagwnau llanw i drydaneiddio'r rheilffyrdd - a'i Lywodraeth ef sydd wedi dinistrio Cyllid Cymru trwy ddegawd o lymder.  

"Mae'r ddadl M4 wedi canolbwyntio ar dagfeydd ar y ffyrdd a'r effaith ar yr amgylchedd hyd yma, ond mae angen ystyried yr effeithiau cymdeithasol hefyd. Mae angen i ni ystyried yr holl heriau sy'n wynebu ein heconomi a'n gwasanaethau yng Nghymru. Mae angen i ni gynllunio pa fuddsoddiadau y gellir eu hariannu a blaenoriaethu'r rhai sy'n rhoi'r effaith fwyaf ar bobl sydd dan anfantais ledled Cymru. Rhaid i bob buddsoddiad cyhoeddus arwain at gyflogaeth o ansawdd da a gwneud y gorau o werth hirdymor ein cymunedau. 

"Rydyn ni am weld Cymru'n symud i economi wyrddach a thecach lle rydyn ni'n rhannu ffyniant ac yn diogelu iechyd a lles pobl; ond dim ond fel rhan o gynllun cysylltiedig y gall hynny ddigwydd - nid cyfres o benderfyniadau unigol. 

"Dylai Llywodraeth Cymru nawr symud yn gyflym i weithredu ei hymrwymiad i wneud Cymru yn genedl waith deg drwy bartneriaeth gymdeithasol - gan ddefnyddio gwybodaeth a rennir gan gyflogwyr, undebau a'r Llywodraeth i sicrhau dyfodol gwell i’r Gymru rydym oll yn anelu ato."
 

Nodyn y golygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Nisreen Mansour

Policy Officer

Wales TUC

02920347010 / 07917413705

1 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9SD