Dyddiad cyhoeddi
Llongyfarchiadau i Jennifer Spratling a Simon Jordan ar dderbyn eu gwobrau.

Heddiw yng nghynhadledd flynyddol TUC Cymru yn Llandudno, cyflwynodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wobr ‘cynrychiolydd y flwyddyn’ i Jennifer Spratling. Enillodd Jennifer, athrawes Blwyddyn Un o Gaerdydd, y wobr am ei gwaith da’n arwain y streic lwyddiannus yn Ysgol Howell’s yng Nghaerdydd. Roedd y streic yn y diwedd wedi arwain at ddiogelu pensiynau ei haelodau pan oeddent dan fygythiad. Bydd ei gwaith diflino’n cael effaith aruthrol ar incwm hirdymor athrawon sydd wedi ymddeol.

Ysgol breifat yw Howell’s gyda chwmni o’r enw GDST yn berchen arni, a phan ddywedodd GDST wrth staff eu bod eisiau tynnu athrawon allan o’r Cynllun Pensiynau Athrawon, daeth Jennifer i’r adwy’n syth i amddiffyn ei haelodau a’i chydweithwyr.  

Arweiniodd Jennifer y streic yn yr ysgol. Trefnodd yr aelodau presennol a recriwtio cydweithwyr nad oeddent mewn undeb cyn hynny. Siaradodd mewn ralis a chyfarfodydd rhieni.  Arweiniodd ei hymdrechion nid yn unig at streic lwyddiannus - gwelodd yr ysgol fwy o gynnydd mewn aelodau NEU nag unrhyw sector arall yng Nghymru.

Roedd Jennifer wrth ei bodd o wybod ei bod wedi ennill gwobr cynrychiolydd y flwyddyn TUC Cymru gan gydnabod pa mor bwysig yw undeb cryf mewn unrhyw anghydfod yn y gweithle. Meddai: “Dyma’r tro cyntaf erioed i streic ddigwydd ar draws yr ymddiriedolaeth. Erbyn i’r streic ddechrau, roedd 95% o’n staff yn aelodau o’r NEU sy’n anhygoel a dweud y gwir”. Mae ei llwyddiant hefyd wedi cael effaith nid yn unig yn ei hysgol ei hun ond ar draws y DU “mewn gwirionedd, ar draws yr ymddiriedolaeth, mae wedi dod â’r ysgolion i gyd at ei gilydd mewn ffordd na ddigwyddodd erioed o’r blaen.”

Mae Ysgrifennydd Cynorthwyol NEU Caerdydd, Geraint Williams, yn gwybod pa mor haeddiannol yw’r wobr. Meddai: “Mae Jennifer wedi gwneud pethau gwych i’w haelodau.  Roedden nhw ar fin colli eu pensiynau, sy’n amodau hynod bwysig sydd eu hangen ar bawb mewn swydd. Mae Jennifer wedi gweithio’n eithriadol galed i gael ein haelodau i gydsefyll i atal hynny rhag digwydd.”

Dyma’r tro cyntaf ers rhai blynyddoedd i TUC Cymru gynnal gwobrau cynrychiolwyr y flwyddyn. Maen nhw wedi eu hailgyflwyno eleni i dynnu sylw at y gwaith rhagorol y mae miloedd o gynrychiolwyr gweithle ledled Cymru wedi bod yn ei wneud, dros gyfnod anodd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn cadw gweithwyr yn ddiogel, gwarchod eu telerau ac amodau gwaith a’u cefnogi yn eu gyrfaoedd a’u lles.

Cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch y flwyddyn

Rhoddwyd yr ail wobr heddiw i gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch y flwyddyn, a aeth i Simon Jordan o USDAW. Mae Simon yn stiward shop gyda TESCO Distribution ym Magor. Cafodd ei enwebu am ei waith caled nid yn unig yn cynnal ond am wella safonau iechyd a diogelwch ar y safle yn ystod un o’r cyfnodau prysuraf erioed i’r sector manwerthu a dosbarthu. Mae Simon yn gweithio’r shifft nos gan sicrhau bod 98% yn ymaelodi â’r undeb ond mae hefyd yn cynorthwyo cydweithwyr shifft dydd yn rheolaidd, gan ddod i’r gwaith yn ei amser ei hun.

Meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’n hanfodol bwysig i ni dynnu sylw at waith cynrychiolwyr gweithle. Dim ond cydnabyddiaeth fach iawn yw’r gwobrau hyn o’i gymharu â’r gwaith bendigedig y mae Jennifer a Simon wedi’i wneud a’r effaith a gawsant ar eu cydweithwyr. Mae cynrychiolwyr undebol yn gwneud gwahaniaeth mor bwysig i gymaint o weithwyr yng Nghymru. Roedden nhw’n bwysig yn ystod y pandemig ac efallai’n fwy fyth erbyn hyn wrth i weithwyr wynebu argyfwng costau byw ac angen eu telerau ac amodau a’u hawliau mwy nag erioed.

“Rwyf mor falch bod Jennifer a Simon wedi cael eu cydnabod mor haeddiannol. Da iawn i Jennifer a Simon a’r holl gynrychiolwyr eraill a enwebwyd am y gwobrau hyn”