Dyddiad cyhoeddi
Rydym yn cyhoeddi'r datganiad hwn i gefnogi ein hundebau cysylltiedig sy'n cynrychioli gweithlu'r ysgolion a cholegau, yn dilyn eu datganiad ar y cyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailasesu cynlluniau i ailagor ysgolion ar frys.

Rydym yn adleisio eu galwad ar Lywodraeth Cymru i arwain ar ddull llawer mwy gofalus o ymdrin â'r mater hwn, gan gynnwys symud pob ysgol i ddysgu gartref i'r rhan fwyaf o blant, fel mai dim ond disgyblion sy'n agored i niwed neu blant gweithwyr allweddol sy'n dychwelyd i'r ysgol tra bod rôl plant mewn trosglwyddo'r coronafeirws newydd yn parhau i gael ei hymchwilio. [1]

Mae ein pryderon yn ymwneud â lles staff ysgolion, ond hefyd y rôl ehangach y mae ysgolion yn ei chwarae o ran trosglwyddo'r feirws o fewn y gymuned. Nodwn o gyngor TAC o 23 Rhagfyr fod ysgolion wedi'u nodi fel un o ddau leoliad lle mae niferoedd uchel o ddigwyddiadau'n parhau i gael eu hadrodd,"[2]  a bod y TAC hefyd wedi cydnabod rôl cau ysgolion o ran cael effaith ar y gyfradd R. [3]

Dylai’r penderfyniad ar sut y gall pob disgybl ddychwelyd i'r ysgol unwaith y bydd y dystiolaeth angenrheidiol ar gael cael ei gwneud mewn partneriaeth gymdeithasol, ar lefel genedlaethol, fel bod y dull yn gyson â'r statws Lefel 4 cenedlaethol a bod safon glir o ran unrhyw newidiadau gweithredol y mae angen eu cyflwyno.

Ni allwn ruthro i ailagor os bydd hynny yn rhoi pobl mewn perygl ac nad yw'n rhoi digon o amser i gyflwyno polisi'n effeithiol. Bydd ailagor ysgolion cyn i'r holl dystiolaeth fod ar gael yn tanseilio hyder yn ddiogelwch ysgolion ac yn rhoi baich cwbl afrealistig ar y gweithlu addysg. Gallai tystiolaeth o'r amrywiolyn newydd a'r feirws yn fwy cyffredinol arwain at gyngor newydd ar reoli heintiau y bydd angen ei ymgorffori mewn canllawiau ac asesiadau risg.

Bu newidiadau eraill hefyd i bolisi a chyngor iechyd y cyhoedd megis cynigion i gyflwyno profion Dyfais Llif Ochrol mewn ysgolion a'r argymhelliad na ddylai'r rhai na allant weithio gartref fynychu'r gweithle, ac mae angen mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan undebau cyn i ysgolion ailagor yn llawn. Mae undebau sy'n cynrychioli gweithwyr yn y sector yn arbennig o bryderus y gallai gweithwyr beichiog fod o dan anfantais ac wedi galw am i'r canllawiau beidio â gwahaniaethu yn eu herbyn.

Rydym yn deall y gallai ailasesiad o gynlluniau ailagor ysgolion gael effaith sylweddol ar y rhai y sydd efo plant sydd yn gorfod oedi cyn dychwelyd i'r ysgol, a byddem yn annog Llywodraeth Cymru i gyfathrebu'n effeithiol â chyflogwyr bod gweithwyr yn gymwys ar gyfer Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws o dan yr amgylchiadau hyn, fel y gallent naill ai gael eu rhoi ar ffyrlo'n rhannol neu'n llawn os na allant weithio. Dylid cyfeirio gweithwyr hunangyflogedig yn y sefyllfa hon at y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth.

[1] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-12/technical-brief-viral-variant-voc-20201201-23-december-2020_0.pdf

[2] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-12/technical-advisory-cell-summary-of-advice-23rd-december-2020.pdf

[3] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-12/technical-advisory-group-policy-modelling-december-2020-and-january-2021.pdf