Dyddiad cyhoeddi
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, wrth roi sylwadau ar gynlluniau Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd:

Rydym yn rhannu’r pryderon sy’n cael eu mynegi’n eang am y Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl ac i beidio â rhuthro i ddeddfu.

Byddai’r Bil yn rhoi pwerau eang i’r heddlu i gyfyngu ar allu pobl – gan gynnwys undebau llafur – i brotestio, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac i ddal pobl bwerus – gan gynnwys cyflogwyr drwg – i gyfrif.

Byddai hefyd yn arwain at fwy o gosbau am dorri amodau’r heddlu ar brotestiadau, ac yn ei gwneud yn haws i’r heddlu fynnu bod amodau o’r fath wedi cael eu torri. Ac mae’n bygwth gwneud cymunedau sipsiwn a theithwyr yn droseddwyr. Mae hyn yn tanseilio gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu Cymru heb ofn.

Ni ddylai Llywodraeth y DU fod yn pasio cyfraith sydd â goblygiadau mor enfawr i hawliau sifil – yn enwedig yng nghanol pandemig.