Dyddiad cyhoeddi
Wrth sôn am y ffigurau diweddaraf ar gyflogaeth a chyflog a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos gostyngiad mewn cyflog, cynnydd yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau a gostyngiad sydyn mewn swyddi gwag ac oriau, a data TWE sy'n dangos gostyngiadau parhaus mewn swyddi a chyflogau ym mis Ebrill a mis Mai, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

Dim ond ymyriad y Llywodraeth drwy'r Cynllun Cadw Swyddi a mesurau eraill sydd wedi atal y ffigurau hyn rhag bod yn llawer, llawer gwaeth.

A dim ond llywodraethau – yn San Steffan ac yng Nghaerdydd – sydd â'r arfau i ddiogelu swyddi yn y misoedd nesaf.

Y dewis arall yw cael degau o filoedd o bobl mewn anobaith diweithdra, miloedd o fusnesau teuluol yn mynd i'r wal a gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei ymestyn i'r eithaf.

Rhaid cynnal y cymorth a gynigir i weithwyr cyhyd ag y bo ei angen. A thu hwnt i hynny, bydd Cymru angen pecyn ysgogi economaidd uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar fuddsoddiad gwyrdd, gan ddiogelu swyddi o ansawdd uchel yn ein sector cynhyrchu, ehangu cyflogadwyedd a chymorth sgiliau, a buddsoddi mewn modelau busnes newydd sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg.