Dyddiad cyhoeddi
Mae cynrychiolwyr Prospect yn y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yng Nghasnewydd, wedi bod yn helpu’r gweithlu i ddweud eu dweud am newidiadau i wneud y gweithle yn fwy cynaliadwy.
Cynrychiolwyr Prospect yn helpu gweithwyr yn y Swyddfa Eiddo Deallusol i wneud y  gweithle yn fwy cynaliadwy

Mae cynrychiolwyr Prospect Becky Lander a Conal Clynch yn aelodau o ‘Dîm Gwyrdd’ newydd yr IPO. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd materion amgylcheddol i aelodau Prospect. Mewn gwirionedd, canfu arolwg o aelodau ym mis Ionawr 2020 mai’r argyfwng hinsawdd oedd yr ail bryder mwyaf i aelodau (ar ôl tâl).

Rôl yr undeb o ran cynaliadwyedd

Mae Becky yn gynrychiolydd gweithle ac yn gynrychiolydd amgylcheddol undeb llafur arbenigol yn y gangen. Eglurodd: “Mae gan yr IPO grŵp awgrymiadau amgylcheddol ar Yammer sy'n cynnig nifer o syniadau. Gwelwyd mwy o ddiddordeb adeg y streiciau hinsawdd mewn ysgolion y llynedd.

“Helpodd Conal i drefnu digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd yn nerbynfa ein swyddfa tua'r adeg hon ac roedd hynny'n help i gychwyn trafodaeth a diddordeb pellach. Cynrychiolais Prospect yn y digwyddiad, ac ar ôl hynny, gofynnwyd i fi fod yn rhan o ‘Dîm Gwyrdd’ y staff a oedd yn cael ei sefydlu gan Dîm Amgylcheddol yr IPO.”

“Nod y Tîm Gwyrdd yw dod â grŵp craidd o bobl o bob rhan o'r swyddfa at ei gilydd i weithio gyda'r Tîm Amgylcheddol i edrych ar yr elfennau amgylcheddol a chynaliadwyedd. Mae'n gweithredu fel cyswllt â gweddill y gweithle ac mae'n cynnig syniadau ac opsiynau.

“Mae cael cynrychiolaeth undeb o fewn y tîm yn ddefnyddiol iawn, ac mae'n gwneud synnwyr o ran ein cyswllt ag aelodau a'n dealltwriaeth o'r materion sy'n eu poeni.”

Dadlau’r achos gyda rheolwyr

“Rwy’n newydd i’r rôl cynrychiolydd amgylcheddol, ac roedd yn ddefnyddiol cael canlyniadau'r arolwg a'r adborth positif yn sgil y digwyddiad argyfwng hinsawdd i dynnu sylw rheolwyr bod aelodau Prospect yn angerddol am y mater hwn a bod ganddyn nhw  lawer o syniadau. Dangosodd eu bod nhw eisiau dweud eu dweud ar sut rydyn ni'n gwneud y gweithle yn fwy cynaliadwy. Yn gynharach eleni, fe wnes i gwblhau hyfforddiant gweithle cynaliadwy Prospect i’m helpu gyda fy rôl.”

Dywedodd Conal: “Ysgrifennodd sundebau llafur yr IPO at y Prif Swyddog Gweithredol fis Hydref diwethaf i egluro lefel y diddordeb ymhlith aelodau’r undebau. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cydweithio ar y materion hyn. Cawsom ymateb positif iawn.”

Cydweithio i oresgyn rhwystrau

Eglurodd Becky: “Mae'r rheolwyr wedi bod yn rhagweithiol. Rydym eisoes wedi gweld newidiadau positif wrth fynd i’r afael â lleihau plastigau untro a chompostio ar y safle. Maen nhw hefyd wedi cyflwyno ardaloedd gwyllt i gefnogi bioamrywiaeth a chyfleusterau gwefru i gerbydau trydan.”

“Ond rydyn ni eisiau gwneud mwy, a bellach mae gan yr undeb fecanwaith arall er mwyn bwydo i mewn i’r hyn sy’n cael ei gynllunio, sy’n golygu y gallwn gyflwyno syniadau’r aelodau a chydweithio i helpu i oresgyn rhwystrau.”

Dywedodd rheolwr cynaliadwyedd yr IPO Lesley Evans: “Rydym yn ystyried gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol fel rhan hanfodol o'n system rheoli amgylcheddol. Rydym yn ffodus iawn bod yr undebau llafur yn yr IPO mor angerddol am faterion amgylcheddol ac yn awyddus i gydweithio â ni. Mae’r Tîm Gwyrdd yn grŵp cymharol newydd ond mae eisoes wedi ymdrin â rhai materion pwysig ac edrychaf ymlaen at gyflawni hyd yn oed yn fwy gyda'n gilydd yn y dyfodol.”

Gweithio gartref a theithio sy’n gysylltiedig â’r gwaith

Mae’r cynrychiolwyr bellach yn gweithio gyda’u haelodau a’r Tîm Gwyrdd i edrych ar amrywiaeth o fentrau newydd.

Eglurodd Conal: “Cyn Covid, cyfeiriodd aelodau at deithio sy’n gysylltiedig â gwaith fel mater allweddol. Ond ar hyn o bryd, mae pawb yn gweithio gartref, a does neb yn teithio.”

“Pa mor aml fydd angen i ni deithio ar gyfer gwaith yn y dyfodol? Mae pobl wedi gweld y gall fideogynadledda weithio. Felly gallai hynny helpu i gydbwyso rhai o'n heffeithiau amgylcheddol, yn enwedig wrth deithio’n bellach i gynadleddau.”

“Rydym am sicrhau bod pryderon ac anghenion llesiant aelodau yn cael eu hystyried mewn unrhyw newidiadau tymor hwy o ran teithio a gweithio gartref. Rydym hefyd yn ceisio deall hafaliad ynni ac allyriadau gweithio gartref yn well. Mae'n rhywbeth rydyn ni'n gweithio arno nawr cyn unrhyw fwriad i ddychwelyd i'r gweithle.”

Syniadau creadigol am weithle sy’n carbon niwtral

Mae’r cynrychiolwyr hefyd yn archwilio opsiynau gwrthbwyso o ran dal a storio carbon (CCS).  A cheir syniadau i gynhyrchu ynni a mentrau i gefnogi peillwyr.

Dywedodd Becky: “Mae gan yr aelodau rai syniadau creadigol iawn ar sut i wella cynaliadwyedd. Mae cael cynrychiolaeth yr undeb ar y ‘Tîm Gwyrdd’ yn golygu y gallwn gyfrannu eu safbwyntiau. Mae'n golygu y gallwn nodi unrhyw faterion, fel bod mentrau newydd yn llawer mwy tebygol o gael cefnogaeth ehangach y gweithlu.

“Mae aelodau a’r rheolwyr wirioneddol eisiau cydweithio i weld yr IPO yn dod yn weithle carbon niwtral.”

Mae Becky bellach yn helpu gyda gwaith ehangach yr undeb ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd, ar ôl cael ei phenodi’n ddiweddar i Is-Bwyllgor Cynghorol Prospect ar Wyddoniaeth, Peirianneg a Chynaliadwyedd (SESAC). Fel rhan o’i rôl newydd, mae’n  edrych ymlaen at gymryd rhan yn natblygiad ac wrth adrodd ar waith yr undeb ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.

Diddordeb mewn gwella cynaliadwyedd yn eich gweithle?

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan mewn ymgyrchoedd amgylcheddol yr undebau llafur. Gallwch hyd yn oed fod yn gynrychiolydd amgylcheddol neu gynrychiolydd ‘gwyrdd’ eich hun. Mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael.

Siaradwch â’ch undeb i gael gwybod mwy ac ewch i www.tuc.org.uk/green  am fanylion cyrsiau ac adnoddau TUC Cymru.