Dyddiad cyhoeddi
Llofnododd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, bapur swyddogol heddiw yn ymrwymo’r Cyngor i siarter afiechyd marwol Cyngres yr Undebau Llafur.
Llofnododd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd siarter afiechyd marwol Cyngres yr Undebau Llafur.
Llofnododd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd siarter afiechyd marwol Cyngres yr Undebau Llafur.

Mae’n tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithwyr â salwch angheuol er mwyn galluogi staff i aros yn eu swyddi cyhyd ag y mynnent.

Gan fod y Cyngor bellach wedi llofnodi’r siarter, bydd manylion y Cyngor yn cael eu hychwanegu at wefan yr ymgyrch ochr yn ochr â manylion awdurdodau lleol eraill o Gymru sydd wedi’i llofnodi hefyd, gan gynnwys Caerffili, Caerdydd, Sir Gâr a Chastell Nedd Port Talbot.

Fe wnaeth y Cynghorydd Debbie Wilcox yr adduned ar ran y Cyngor yng nghyfarfod y cabinet fis Ebrill.

Mae y TUC  yn galw ar gyflogwyr ledled y DU i lofnodi’r siarter a chytuno i beidio â diswyddo unrhyw gyflogai sydd wedi derbyn diagnosis angheuol.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Drwy lofnodi’r siarter afiechyd marwol rydym yn dangos ymrwymiad ein Cyngor i gefnogi cyflogeion a’u teuluoedd yn ystod amseroedd o angen anodd iawn a pharchu dymuniadau cyflogai i beidio â chael ei ddiswyddo pan fydd yn derbyn diagnosis o gyflwr angheuol.

“Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyfle i gyflogeion gael cwnsela ac rydym yn y broses o adeiladu hyb llesiant i staff er mwyn gallu cyrchu dewisiadau llesiant eraill. Fodd bynnag, wrth lofnodi’r Siarter rydym yn ychwanegu at safiad y Cyngor ein bod yn cefnogi cyflogeion sydd wedi derbyn diagnosis o salwch angheuol.

Dywedodd Gareth Hathway, swyddog arweiniol TUC Cymru ar gyfer siarter afiechyd marwol: “Ni ddylech orfod pryderu am eich swydd ar gael diagnosis o salwch angheuol. Rydym wrth ein bodd bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i lofnodi  y Siarter Afiechyd Marwol.

“Mae’r tawelwch meddwl o wybod y gallwch fforddio i dalu eich biliau wrth fod yn sensitif i anghenion gwaith pobl â salwch angheuol yn rhoi urddas a pharch i bobl pan fo’u hangen arnynt y mwyaf.

“Wrth addo cefnogaeth i’r Siarter afiechyd marwol, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dangos ei gydnabyddiaeth o’r rôl allweddol sydd ganddynt wrth amddiffyn llesiant ei weithlu.”

Mae Rebecca Dawkins, uwch gynrychiolydd y GMB, hefyd wedi canmol camau’r Cyngor wrth lofnodi’r siarter.

Dywedodd: “Rydym yn dathlu ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i’w staff, drwy gydnabod y gall pobl sy’n dioddef o salwch angheuol, drwy weithredu prosesau cadarn, barhau i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i’w cyflogwr ac mae’r siarter hon yn gwneud hynny’n bosibl.

“Gobeithiwn y bydd pob awdurdod lleol yn dilyn esiampl arweiniol Cyngor Dinas Casnewydd ac yn llofnodi’r siarter hefyd.”

Darllenwch mwy am sut all eich undeb neu weithle llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol