Dyddiad cyhoeddi
Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) wedi croesawu’r ymgynghoriad ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) heddiw (dydd Gwener 26 Chwefror).

Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol i ymgynghori ag undebau llafur pan fyddan nhw’n gosod eu hamcanion llesiant. Bydd hyn yn sicrhau bod buddiannau gweithwyr yn cael eu hadlewyrchu’n briodol mewn unrhyw gamau gweithredu y mae cyrff fel cynghorau a byrddau iechyd yn eu cymryd o dan eu cyfrifoldebau datblygu cynaliadwy.

Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru yn croesawu’r ddeddfwriaeth ddrafft yn frwd. Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae hwn yn gam pwysig iawn i weithwyr yng Nghymru. Bydd y ddeddfwriaeth yn sicrhau llais i weithwyr yn y penderfyniadau o bwys iddyn nhw. Mae’n golygu y bydd gweithwyr wrth y bwrdd gydag arweinwyr llywodraeth a busnesau, gan weithio mewn partneriaeth i wneud Cymru’n decach ac yn fwy ffyniannus.

“Mae cyflogwyr yn bwerus – mae ganddyn nhw lawer o adnoddau y gallan nhw eu neilltuo i lobïo’r llywodraeth ac mae hynny’n annheg. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cydbwyso hynny, gan sicrhau, pan fydd gan fusnesau lais, y gwrandewir ar weithwyr hefyd. Rydyn ni wedi ceisio gweithio fel hyn yng Nghymru ers amser maith, yn enwedig yn ystod y pandemig iechyd presennol. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cryfhau ac yn ffurfioli’r dull gweithredu fel ein bod yn cael canlyniadau sydd o fudd i bawb.”

Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft hefyd yn nodi cynllun ar gyfer “caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol”. Mae’n rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i sicrhau bod eu gwariant caffael yn cyfrannu at nodau llesiant, cydraddoldeb a gwaith teg. Mae’r undebau llafur yn gobeithio y bydd hyn yn golygu bod gwariant ar gaffael yn arwain at greu swyddi gwell ym mhob rhan o Gymru, ond yn enwedig yn y cymunedau hynny lle mae gwaith da yn brin.

Dywedodd Shavanah Taj: “Rydyn ni i gyd eisiau gweld arian cyhoeddus yn cael ei wario ar greu prentisiaethau a swyddi o ansawdd da. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynd â ni gam arall yn nes at sicrhau hyn a chyflawni uchelgais ein hymgyrch Swyddi Gwell yn Nes Adref. Ond mae hefyd yn ystyried canlyniadau cadarnhaol eraill, fel effaith y gwariant hwn ar ein hamgylchedd, wrth i ni ddechrau ar raglen o adferiad economaidd i adeiladu’n ôl yn well”.

Hefyd yn croesawu’r Bil, dywedodd Ruth Brady, Llywydd TUC Cymru: “Mae’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol hwn yn gam mentrus a radical a fydd yn rhoi mwy o lais i weithwyr yn y ffordd y caiff ein gwlad ei rhedeg. Gyda’n gilydd byddwn ni’n gwneud newidiadau go iawn a fydd yn ymgorffori cydraddoldeb a thegwch i weithwyr ym mhob gweithle yng Nghymru.

“Mae’r undebau llafur a’r mudiad llafur wedi credu erioed mai cynnwys gweithwyr yn ddemocrataidd yw’r ffordd orau o ddod o hyd i atebion teg i’r heriau y mae Cymru’n eu hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Y gwir yw, wrth i ansicrwydd godi ynghylch Covid a Brexit, na fu erioed amser pwysicach i ymuno ag undeb, felly rydyn ni’n annog pawb i gofrestru, cymryd rhan a bod wrth galon newid Cymru er gwell.”

Nodyn y golygyddion

Liam Perry

Lperry@tuc.org.uk