Dyddiad cyhoeddi
Lansiwyd cynlluniau TUC Cymru ar gyfer Gwaith Teg i Gymru yn y Senedd ddoe i gynulleidfa o aelodau Cynulliad Cymru, gan gynnwys y Dirprwy Prif Weinidog Jane Hutt.

Nododd y sefydliadau undeb llafur sut mae codi leflau cyd-fargeinio, sef y broses y mae gweithwyr yn ei defnyddio i gael dweud eu dweud am eu cyflog, telerau ac amodau - yn allweddol i wneud gwaith yn decach ac yn well yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae cyflog tua thraean o weithwyr Cymru yn cael ei osod drwy gytundeb ar y cyd rhwng eu hundeb a'u cyflogwr. Mae TUC Cymru am weld hyn yn cynyddu'n sylweddol

Clywodd Gweinidogion ac ACau gan Shavanah Taj, Llywydd TUC Cymru, a Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, a galwodd am gyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y Ddeddf yn adeiladu ar drefniadau partneriaeth gymdeithasol sydd eisoes ar waith rhwng undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru, i ddarparu atebion polisi tecach i'r heriau sy'n wynebu ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus.

Cred TUC Cymru fod y camau hyn yn ganolog i wneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg - lle mae lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed - a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau fel y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Dywedodd Martin Mansfield:

“Rydym yn ymgyrchu i wneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg - lle mae gweithwyr yn cael bargen well. Mae cyflogau isel, gwaith ansicr ac anghydraddoldeb yn niweidio ein cymunedau. Ychwanegwch hyn at effaith bosibl Brexit, awtomeiddio a Chredyd Cynhwysol ac rydym yn wynebu dyfodol ansicr iawn. Mae arnom angen gweithredu nawr - mae angen i ni wneud gwaith yn decach ac mae ein marchnad lafur yn fwy gwydn.

“Mae undebau eisoes yn cyflawni hyn ar gyfer eu haelodau - maent yn negodi cyflogau uwch ar gyfer eu haelodau, mwy o gyfleoedd hyfforddi a mwy o ddiogelwch.

“Dyma pam rydym yn galw am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol i gymell newid diwylliant yn ein heconomi, lle mae llais cyfunol gweithwyr yn cael ei gydbwyso yn erbyn llais eu cyflogwr.”

Ar yr uchelgais i gynyddu bargeinio ar y cyd yn gyflym, ychwanegodd:

“Cyd-fargeinio yw'r ffordd orau o hyd o sicrhau newid yn y gweithle. Mae'r ddwy ochr o gwmpas y bwrdd yn gallu rhannu eu barn a chytuno ar y fargen orau bosibl.

“Mae undebau yng Nghymru nid yn unig yn defnyddio trefniadau cyd-fargeinio i godi tâl. Maent yn sicrhau cytundebau dros bethau fel cyfleoedd dysgu cynhwysol a chydraddoldeb. Er enghraifft, roedd y cytundeb cyflog diweddaraf ar gyfer GIG Cymru yn cynnwys polisi menopos Cymru gyfan oherwydd bod aelodau undeb wedi nodi bod angen hyn ac wedi ei drafod.

“Rydym am i fwy o weithwyr gael mynediad i Waith Teg fel hyn, a rhoi diwedd ar gymorth y wladwriaeth i gyflogwyr sy'n gwrthod mynediad i undebau ac sydd ddim yn gwrando ar eu gweithlu.”

DIWEDD

Nodyn y golygyddion

Nodiadau

Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC) yw llais Cymru yn y gwaith, sy'n cynrychioli tua 400,000 o weithwyr ar draws 48 o undebau cyswllt.

Mae mwy o wybodaeth am Ymgyrch Gwaith Teg TUC Cymru ar gael yn https://www.tuc.org.uk/gwneud-cymrun-wlad-gwaith-teg

Digwyddodd sesiwn briffio TUC Cymru ar Wneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg yn y Senedd ar 3 Ebrill 2019 am 12.30-13.30, a noddwyd gan Mick Antoniw AC. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Williams ar cwilliams@tuc.org.uk 07795 844 728.