Dyddiad cyhoeddi
Wrth ymateb i ffigurau GDP heddiw (Dydd Mercher), dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

"Efallai nad yw'r newyddion bod Cymru yn swyddogol bellach mewn cyfnod o ddirwasgiad yn annisgwyl, ond nid yw hynny'n ei gwneud yn llai niweidiol."

"Mae'n ein hatgoffa'n glir na all Gweinidogion yn San Steffan a Chaerdydd anwadalu ynghylch y mater. Rhaid iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i gadw cynifer o swyddi ag sy'n bosibl a chefnogi busnesau sydd â dyfodol hyfyw y tu hwnt i fis Hydref. Dyma sut y llwyddwyd i osgoi'r canlyniadau gwaethaf yn y dirwasgiad diwethaf ddegawd yn ôl, a dyna y mae'n rhaid inni ei wneud yn awr."

"Mae'n bwysig nad ydym yn colli persbectif ar sut y bydd y dirwasgiad yn effeithio ar fywydau pob dydd pobl, a dyna pam mae angen cynllun clir arnom ar gyfer cadw swyddi, cymorth i'r hunangyflogedig a buddsoddiad priodol mewn gwasanaethau cyhoeddus."

"Canolbwyntio ar waith teg a chreu swyddi gweddus yn y sectorau technoleg werdd, modurol, adeiladu ac awyrennu yw'r ffordd orau o liniaru effeithiau gwaethaf y dirwasgiad hwn."