Dyddiad cyhoeddi
Bydd pasbortau newydd y TUC a’r GMB yn helpu 54,000 o bobl anabl yng Nghymru i gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn y gwaith
  • Mae dadansoddiad newydd gan y TUC wedi datgelu bod bron i filiwn o bobl ledled y DU wedi newid eu swyddi neu wedi gorfod gadael eu gwaith y llynedd
  • Roedd 54,290 yng Nghymru 
  • Mae’r TUC a’r GMB yn lansio pasbort enghreifftiol i wneud yn siŵr bod pobl anabl yn cael yr addasiadau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y gwaith
     

Mae’r TUC a’r GMB wedi lansio pasbort anabledd newydd i helpu bron i filiwn (946,010) o bobl anabl sy’n gadael eu gwaith neu’n newid cyflogwr bob blwyddyn i gael yr help sydd ei angen arnynt.

Mae pobl anabl yn gadael eu swyddi am bob math o resymau. Un rheswm y gellid ei atal yw pan na fydd cyflogwyr yn cyflawni’r ddyletswydd gyfreithiol sydd arnynt i wneud – ac i gadw – yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen ar eu staff anabl i wneud eu gwaith.

Gydag un o bob 10 (390,808) o bobl anabl yn gadael eu swydd ac un o bob saith (555,190) yn dod o hyd i swydd newydd bobl blwyddyn, mae’r TUC a’r GMB yn credu ei bod yn hanfodol bod ffordd fwy llwyddiannus ac unedig yn cael ei chanfod i gytuno ar ac i gofnodi pa addasiadau y mae angen eu gwneud.

O ganlyniad mae’r TUC a’r GMB wedi cynhyrchu cytundeb addasiadau rhesymol enghreifftiol ar gyfer cyflogwyr, y gall cynrychiolwyr gytuno arno gyda’u cyflogwr, a phasbort templed ar gyfer addasiadau rhesymol, i gofnodi pa addasiadau sydd wedi’u gwneud i ddileu rhwystrau yn y gweithle.

Gallai’r addasiadau hyn gynnwys: darparu cyfarpar wedi’u haddasu’n arbennig (fel cadair, desg neu gyfrifiadur), newid dyletswyddau’r swydd dros dro, newid amseroedd egwyl neu batrymau gweithio, neu ganiatáu gweithio hyblyg neu amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol.

Ar ôl cytuno ar yr addasiadau, bydd pawb yn llofnodi’r pasbort. Gellir adolygu’r ddogfen yn rheolaidd ac mae’n golygu na fydd yn rhaid i bobl anabl ailadrodd eu gofynion bob tro y bydd eu rheolwr llinell yn newid, neu os bydd eu rolau yn y sefydliad yn newid. 

Meddai Swyddog Polisi TUC Cymru Rhianydd Williams: “Mae pobl anabl yn wynebu llawer o rwystrau wrth geisio dod o hyd i swyddi da, boddhaus. Rhaid i gyflogwyr wneud mwy i wneud yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnynt.

“Mae gweithwyr anabl yn byw o dan fygythiad parhaus o golli eu haddasiadau rhesymol bob tro y bydd eu pennaeth neu eu swydd yn newid.

“Mae pasbort y TUC a’r GMB yn ffordd ddelfrydol o gofnodi’n swyddogol ac yn eglur pa addasiadau y cytunwyd arnynt, fel na fydd yn rhaid i weithwyr anabl fynd yn ôl i’r man cychwyn bob tro y byddant yn cael rheolwr neu rôl newydd.”

DIWEDD

Nodyn y golygyddion

Nifer y gweithwyr anabl a newidiodd gyflogwr neu a adawodd eu swydd y llynedd

 

Cyflogeion anabl sydd wedi bod â chyflogwr cyfredol am lai na blwyddyn

Pobl anabl nad ydynt mewn gwaith a adawodd eu swydd ddiwethaf o fewn y flwyddyn ddiwethaf

Cyfanswm y bobl anabl a newidiodd swydd neu a roddodd y gorau i weithio yn y flwyddyn ddiwethaf

Gogledd Ddwyrain Lloegr

20,950

19,220

40,160

Gogledd Orllewin Lloegr

68,080

47,860

115,940

Swydd Efrog a’r Humber

54,220

31,240

85,450

Dwyrain Canolbarth Lloegr

41,880

34,370

76,250

Gorllewin Canolbarth Lloegr

45,530

29,880

75,410

Dwyrain Lloegr

48,180

40,850

89,030

Llundain

58,920

36,690

95,610

De Ddwyrain Lloegr

77,720

46,060

123,780

De Ddwyrain Lloegr

58,710

35,930

94,640

Cymru

28,960

25,330

54,290

Yr Alban

42,520

36,290

78,800

Gogledd Iwerddon

9,520

7,110

16,620

Cyfanswm

555,160

390,810

945,970

Ffigurau: cyfartaledd 4-chwarter ar gyfer y chwarteri diwethaf (Ch4 2017-Ch3 2018) o Arolwg o’r Llafurlu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

- Mae 3.9 miliwn o bobl anabl mewn gwaith.
- Pan fydd nodwedd o’r gweithle neu arferion gweithio’n rhoi gweithiwr neu ymgeisydd am swydd sydd ag anabledd o dan anfantais, mae dyletswydd ar y cyflogwr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ystyried pa addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud. Mae cyflogwyr nad yw’n cyflawni eu dyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol yn torri’r gyfraith a gallant wynebu Tribiwnlys Cyflogaeth. Am ragor o wybodaeth ewch i www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=607

- I weld yr adroddiad llawn cliciwch yma: https://drive.google.com/file/d/1UmlouEHdrhtTk_3DntlV07wh32p6Uh_U/view

- I weld polisi gweithle enghreifftiol cliciwch yma: https://drive.google.com/file/d/1UjSinN8gaq3U09Xv9toG77TKh_cHL2il/view

- I weld pasbort enghreifftiol cliciwch yma: https://drive.google.com/file/d/1mvrh1Uv3Zi1kVWlXvcrQAIsPQIvsnUb7/view

- TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 49 o undebau’n aelodau, mae’r TUC yn cynrychioli dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith a dros gyflawnder cymdeithasol gartref a thramor.

Cysylltiadau:

Swyddfa’r wasg y TUC
media@tuc.org.uk
020 7467 1248

Wales TUC Cymru

wtuc@tuc.org.uk

029 2034 7010