Dyddiad cyhoeddi
Mae’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Mae’n rhoi dyletswyddau newydd ar gyrff cyhoeddus i ymgysylltu ag undebau a sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer Cymru.

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam mawr i gryfhau lleisiau gweithwyr.

Beth ydy partneriaeth gymdeithasol?

Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffurf o bartneriaeth rhwng cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr drwy eu sefydliadau cynrychioladol - sefydliadau gweithwyr ac undebau llafur - gyda’r llywodraeth.

Bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ymgysylltu ag undebau llafur wrth sefydlu beth fyddant yn ei wneud i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2016. Mae hefyd yn creu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar hyn, a Dyletswyddau Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol fel bod gwariant caffael yn helpu i gyflawni ar y Targedau Llesiant a’r weledigaeth Gwaith Teg. 

Cam mawr i gryfhau lleisiau gweithwyr

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam mawr gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cydnabod y rôl y mae partneriaeth gymdeithasol eisoes wedi’i chwarae - yn enwedig yn ystod y pandemig - ac yn adeiladu arni i greu gweledigaeth gydlynol ac uchelgeisiol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol drwy gydol y sector cyhoeddus ddatganoledig.

“Mae partneriaeth gymdeithasol yn cyflawni ar gyfer ei weithwyr. Mae’n golygu fod llunwyr polisïau yn deall buddion y gweithwyr, a bod ganddynt ran i’w chwarae o ran siapio’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn arwain at ddeilliannau megis asesiadau risgiau covid mandadol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cyflawni llawer mwy ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth. 

“Mae’r Bil yn gosod y sylfeini i weithwyr i fod wrth wraidd y broses pan fydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud am y cymunedau y maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddynt. Mae’n gam mawr iawn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud hyn yn realiti ledled Cymru.”